a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Post Brenhinol

    Image caption: Mark Drakeford

    Mae’r AS Llafur Carolyn Thomas yn gofyn “pa ystyriaeth y mae'r prif weinidog wedi'i rhoi i gyhoeddiad Ofcom y gallai'r Post Brenhinol leihau sawl gwaith y dosberthir llythyrau i dri diwrnod yr wythnos?”

    Atebodd Mr Drakeford "nad yw'r heriau a wynebir gan y Post Brenhinol yn cael eu datrys orau gan wasanaeth sydd wedi'i gyfyngu i dri diwrnod yr wythnos yn unig. Bydd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol yn cyfarfod ag Ofcom yr wythnos nesaf i wneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw newidiadau i wasanaethau post ystyried anghenion Cymru ac unrhyw effaith ar bobl agored i niwed”.

    Dywedodd adroddiad gan y rheoleiddiwr fod y gwasanaeth post yn "heneiddio" a bod angen newidiadau. Dywedodd Ofcom mai opsiwn arall fyddai ymestyn nifer y dyddiau y mae'n ei gymryd i'r rhan fwyaf o lythyrau gael eu dosbarthu.

    Dywedodd y Post Brenhinol nad oedd ei rwydwaith dosbarthu presennol "yn gynaliadwy" a bod "angen brys" i ddiwygio. Mae’r cwmni, a gafodd ei wahanu oddi wrth Swyddfa’r Post a’i breifateiddio ddegawd yn ôl, dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth cyffredinol un pris yn mynd i unrhyw le, sy’n golygu bod yn rhaid iddo ddosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a pharseli ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llythyrau sy'n cael eu postio wedi plymio, gyda hanner y nifer yn cael eu hanfon o gymharu â lefelau 2011, tra bod dosbarthu parseli wedi dod yn fwy poblogaidd - ac yn fwy proffidiol.

  3. Hawliau datblygu a ganiateir

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod ag "agenda gwrth-dwristiaeth" ac yn galw am ymestyn hawliau datblygu ar gyfer meysydd gwersylla dros dro drwy gynyddu nifer y dyddiau maen nhw'n cael eu caniatáu o 28 i 60.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “rwy’n deall y pwyntiau y mae’r aelod wedi’u gwneud ac y mae’r sector wedi’u gwneud, sef pe bai mwy o ddiwrnodau pan fyddai’n gallu agor meysydd carafanau heb ganiatâd cynllunio, byddai hynny o fantais i rai pobl yn y diwydiant. Ond gwyddom hefyd fod cwynion wedi bod yn y gorffennol am y safleoedd carafanau dros dro hynny sy’n creu traffig nad yw’n cael ei reoleiddio, bod mwg yn effeithio ar bobl sy’n byw gerllaw, bod sŵn gan bobl—sydd, wedi’r cyfan, yn dod ar wyliau i fwynhau eu hunain, ac maen nhw'n agos iawn weithiau i ble mae pobl yn byw eu bywydau. Felly, yr hyn fydd y gweinidog yn ei wneud fydd pwyso a mesur y gwahanol ystyriaethau hynny. Os yw'n bosibl i barciau ymddangos heb ganiatâd cynllunio, yna bydd rhaid cael mesurau diogelu i bobl sy'n byw gerllaw hefyd."

    Image caption: Janet Finch-Saunders
  4. Digartrefedd

    Image caption: Heledd Fychan

    Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn codi pryderon bod unigolion sy’n wynebu digartrefedd ar hyn o bryd yn cael eu cartrefu mewn hen siop Toys R Us ym Mae Caerdydd.

    Meddai, "wrth gwrs bod angen darparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy'n ddigartref, ond mae'r amodau y mae pobl agored i niwed yn cael eu cartrefu ynddynt yn fy mhoeni'n fawr, ac mae hefyd yn pryderu nifer o staff sy'n cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth."

    Atebodd y prif weinidog, “yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagnet i bobl sy’n dod i’r ddinas, sy’n gweld nad oes ganddyn nhw unrhyw le i fyw, ac yn troi at yr awdurdod lleol i’w cynorthwyo.

    “Ar yr un pryd, mae Caerdydd, uwchlaw unrhyw ran arall o Gymru, yn delio â chanlyniadau penderfyniad y Swyddfa Gartref i gyflymu’r broses o wneud penderfyniadau yn y system lloches - peth da ynddo’i hun, ond gyda llawer, llawer o bobl yn cael eu taflu allan o'r llety yr oeddent yn gallu ei fwynhau o'r blaen, heb unman i fynd, heblaw am wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol.

    "Daeth y ddau beth yna at ei gilydd cyn y Nadolig mewn ffordd a oedd yn anhygoel o anodd i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffordd i ymateb. Mae wedi defnyddio safle Toys R Us. Mae'n dweud y bydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwnnw ym mis Ebrill eleni oherwydd bod ganddo lety arall, mwy addas, ar y gweill."

    Image caption: Mae hen safle Toys R Us ger Canolfan Iâ Cymru a Phwll Rhyngwladol Caerdydd
  5. Ambiwlans Awyr Cymru

    Image caption: Rhun ap Iorwerth

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn mynegi pryderon y gallai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru gael eu cau, yn ôl adolygiad i'r gwasanaeth.

    Mae'r adolygiad yn cynnwys cynnig ar gyfer cau safleoedd yn Y Trallwng ym Mhowys, a Chaernarfon yng Ngwynedd, gyda’r hofrenyddion brys yn cael eu hadleoli i ogledd-ddwyrain Cymru.

    Meddai Rhun ap Iorwerth, "dwi'n credu'r bobl glinigol hynny sy'n ofni y bydd hynny'n rhoi'r canolbarth a'r gogledd-orllewin dan anfantais ac yn wir yn peryglu bywydau".

    Mae'n gofyn, "mae'r adolygiad o ddarpariaeth ambiwlans awyr yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, sy'n bwyllgor ar y cyd rhwng y saith bwrdd iechyd. Felly, mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ac i ymyrryd. Ydi'r prif weinidog yn barod i gydnabod y pryderon gwirioneddol a chymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu'r ddau safle fel bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gwasanaethau pob rhan o'r wlad yma'n gyfartal?"

    Mae Mr Drakeford yn ateb, "dwi'n cydnabod y ffaith fod pobl leol yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth ond mae hwn yn digwydd ble bynnag mae pethau'n cael eu haildrefnu. A dyna beth sydd wedi digwydd yn y fan hon. Mae'r bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth wedi bod mas yn siarad gyda phobl leol ac yn siarad gyda phobl ledled Cymru, achos yr hyn maen nhw'n ei awgrymu yw bod neb yn colli allan ar y gwasanaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ond bod cyfle i lot fwy o bobl eraill i gael y gwasanaeth, sydd ddim yn gallu ei gael heddi."

  6. Undeb Rygbi Cymru

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn am asesiad y prif weinidog o’r hyn y mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi’i wneud ar ôl i adroddiad ganfod nad oedd rhywiaeth a hiliaeth wedi’u herio o fewn y sefydliad.

    Daeth yr adroddiad yn sgil rhaglen ddogfen gan BBC Cymru lle dywedodd cyn-fos yn rygbi merched Cymru ei bod wedi ystyried hunanladdiad oherwydd diwylliant y sefydliad.

    Atebodd y prif weinidog bod "dechrau da iawn wedi'i wneud. Ond mae llawer o waith y bydd angen ei wneud o hyd" i fynd i'r afael a'r materion diwylliannol.

    Mae Mr Davies hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Undeb Rygbi Cymru wedi gofyn i weinidogion Cymru am dair blynedd o "ofod anadlu" ar daliadau llog o fenthyciad adfer Covid £18m.

    Dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr “nad oes yna’r baich hwnnw ar rygbi ar lawr gwlad o fewn Cymru, pe bai’n rhaid i Undeb Rygbi Cymru wneud toriadau,” meddai Mr Davies.

    Atebodd y prif weinidog "er ein bod bob amser yn barod ac wedi bod yn barod i siarad â'r undeb ynghylch a ellir ailstrwythuro'r benthyciad, yn y diwedd roedd hwn yn fenthyciad wedi’i bennu’n fasnachol, gydag amodau wedi’u hetifeddu o gymorth coronafeirws y DU, ac yr ymrwymwyd iddynt yn rhydd gan Undeb Rygbi Cymru.”

    Image caption: Andrew RT Davies
  7. Cyllidebau llywodraeth leol

    Gofynnwyd iddo gan ei gydweithiwr Llafur Jayne Bryant beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi llywodraeth leol i fantoli eu cyllidebau.

    Dywed Mr Drakeford fod ansicrwydd a fydd Cymru yn cael £25m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn sgil hwb i gynghorau yn Lloegr.

    Meddai, "mae hyn yn dangos annhegwch y ffordd y mae cyllid yn y Deyrnas Unedig yn cael ei drefnu. Bydd llywodraeth leol yn Lloegr yn gwybod yn awr y setliad y mae wedi'i dderbyn gan lywodraeth y DU. Bydd yn rhaid i ni aros tan gyllideb y gwanwyn i weld a yw’r £25 miliwn hwnnw’n cyrraedd Cymru mewn gwirionedd, neu a yw’n cael ei wrthbwyso gan newidiadau eraill yn ein cyllideb, a allai olygu mewn gwirionedd, nid ein bod £25 miliwn ar ein hennill, ond ein bod yn waeth ein byd".

    Cafodd £500m ychwanegol ei gyhoeddi ar gyfer gofal cymdeithasol yr wythnos ddiwethaf ar gyfer cynghorau yn Lloegr.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol pan fydd llywodraeth y DU yn rhoi hwb i gyllid i wasanaethau yn Lloegr, fel iechyd a chynghorau, sy’n cael eu rhedeg o Gaerdydd yng Nghymru.

    Yn y setliad llywodraeth leol, a gyhoeddwyd y llynedd, cyngor Casnewydd welodd y cynnydd mwyaf yn y gyllideb, sef 4.7%, a Chonwy a Gwynedd gafodd y gwaethaf. sef 2%.

  8. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.