a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y tro cyntaf fel prif weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Gofal iechyd amserol?

    Dywed Sioned Williams o Blaid Cymru nad yw trigolion ei hetholaeth yng Ngorllewin De Cymru yn derbyn gofal iechyd amserol, ac mae’n cyfeirio at y nifer o achlysuron pan fo Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi bod o dan yr hyn a elwir yn rhybudd du, a sbardunir dan bwysau eithriadol.

    Mae hi’n dweud bod Ysbyty Treforys wedi datgan rhybudd o’r fath bum gwaith dros y pum mis diwethaf, ac mae naw wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

    "Mae hyn yn gwbl annerbyniol, rhaid mynd i'r afael yn uniongyrchol â difrifoldeb y pwysau yma ar wasanaethau iechyd," meddai Sioned Williams.

    Atebodd y prif weinidog, "mae'r llywodraeth hon yn cydnabod yr angen am welliant pellach o ran mynediad at ofal amserol o ansawdd uchel ar draws ein GIG. Dyma brif ffocws Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydych yn awr yn gweld amseroedd aros yn disgyn yng Nghymru mewn misoedd olynol".

    Image caption: Sioned Williams
  3. Digartrefedd

    Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Luke Fletcher o Blaid Cymru am ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru, mae Vaughan Gething yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar bob digartrefedd yng Nghymru.

    Dywed Mr Gething fod Llywodraeth Cymru yn rhoi bron i £220 miliwn ar gyfer atal a chymorth eleni.

    Meddai, "mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn i ganfod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a chymorth i helpu pobl ifanc i gael y sgiliau bywyd i fyw’n annibynnol".

    Dywed Mr Fletcher fod End Youth Homelessness Cymru wedi "nodi angen am newid diwylliannol difrifol yn y sector cyhoeddus, boed hynny ar draws addysg, iechyd ac eraill fel tai er mwyn mynd i'r afael â'r her hon".

  4. Cyllid teg i Gymru?

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn sut y bydd y prif weinidog yn sicrhau "cyllid teg i Gymru" os yw Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol.

    Atebodd Mr Gething, "rwy'n edrych ymlaen at sgwrs barhaus ac ymgysylltiol gyda'r tîm cysgodol presennol yn San Steffan. Edrychaf ymlaen at roi fy ysgwydd i'r llyw i sicrhau bod llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol, ac ni all etholiad ddod yn ddigon buan. Byddai hynny’n dda i Gymru ac yn dda i Brydain, i gael dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio er budd y bobl y mae’n fraint inni eu gwasanaethu, edrychaf ymlaen at fod yn rhan nid yn unig o’r sgwrs honno ond sut yr ydym yn llywodraethu a sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau ar gyfer y Gymru uchelgeisiol a thecach yr wyf am ei gweld."

    Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn cyfeirio at sylwadau'r prif weinidog yn amddiffyn toriadau i amgueddfa genedlaethol Cymru. Dywedodd yr amgueddfa dros y penwythnos ei bod yn cael gwared ar 90 o swyddi.

    Dywedodd Mr Gething fod y Gwasanaeth Iechyd yn "flaenoriaeth glir i bobl Cymru", gan adael Llywodraeth Cymru yn wynebu "dewisiadau anodd".

    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  5. Rhoddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y rhoddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething - mae Mr Gething yn cadarnhau i Mr Davies ei fod wedi derbyn £200,000 gan Dauson Environmental Group.

    Mae'r cwmni yn eiddo i ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

    Mae Vaughan Gething hefyd yn cadarnhau y bydd unrhyw arian na chafodd ei wario yn cael ei roi i Lafur Cymru - "mae'r rheolau'n mynnu, yn yr ornest fewnol hon gan Lafur Cymru, bod yr holl roddion yn cael eu datgan a byddai angen i'r ddwy ymgyrch ffeilio eu cyfrifon ar y diwedd ac os oes unrhyw arian ar ôl yna byddai hynny'n mynd i Lafur Cymru fel rhodd wleidyddol".

    Mae Mr Davies yn gofyn, "pa fesurau ydych chi wedi'u rhoi ar waith nawr eich bod chi'n brif weinidog i wneud yn siŵr nad oes canfyddiad parhaus y gall arian brynu dylanwad o fewn eich llywodraeth a sedd wrth fwrdd y cabinet?"

    Atebodd y prif weinidog, “rwy’n meddwl pan edrychwch ar ble’r ydym ni a’n hymlyniad at y cod gweinidogol a’r gofynion i wahanu buddiannau gweinidogol a rhai etholaethol a rhai personol, mae gan y llywodraeth hon a phob llywodraeth arall a arweiniwyd gan Lafur Cymru hanes o wneud y peth iawn."

    Image caption: Andrew RT Davies
  6. Bil Seilwaith (Cymru)

    Mae’r Ceidwadwr Russell George yn mynegi pryder am "ddiffyg manylder" yn y Bil Seilwaith (Cymru), y disgwylir iddo basio ei gyfnod olaf yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw.

    Dywed y prif weinidog y bydd y Bil yn arwain at fwy o dryloywder a chysondeb.

    Prif ddibenion y Bil yw:

    • sefydlu proses cydsynio seilwaith unedig ar gyfer mathau penodedig o seilwaith mawr ar ac oddi ar y môr (hyd at ffin atfor tiriogaethol), gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a phrosiectau nwy. Gelwir y math newydd o ganiatâd yn "gydsyniad seilwaith" ("IC") a bydd yn cael ei roi mewn perthynas â phrosiectau sy'n cael eu pennu fel "Prosiect Seilwaith Mawr" ("SIP");
    • darparu bod yn rhaid i ddatblygwyr gael IC ar gyfer SIP. Bwriad yr IC yw cynnwys yr ystod lawn o awdurdodiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r datblygiad; a
    • disodli, naill ai'n llawn neu'n rhannol, nifer o gyfundrefnau statudol presennol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith a rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu datblygiad o'r fath yn un caniatâd.

    Bu Aelodau o’r Senedd yn trafod eu syniadau cychwynnol ar y Bil ar 13 Mehefin 2023.

    Dywed y cwmni eiddo Savills fod gan broses gydsynio unedig botensial i roi mantais gystadleuol i Gymru dros weinyddiaethau cyfagos.

    Mae'r Bil yn dilyn ymgynghoriad yn 2018.

    Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r egwyddor o gael proses gydsynio unedig, er bod llawer eisiau mwy o fanylion ar sut y byddai’n gweithio’n ymarferol. Dywedodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i newidiadau sicrhau hyblygrwydd, rôl gryfach i gymunedau ac na ddylent fod yn rhy gymhleth nac yn gostus i ymgeiswyr.

    Image caption: Vaughan Gething
  7. 'Cynhyrchu golau yn hytrach na chynhyrchu gwres'?

    Yn ei sesiwn olaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fis diwethaf, dywedodd Mark Drakeford, “o ran paratoi, y cwbl y byddwn yn ei ddweud wrth fy olynydd yw y bydd yn cymryd, mae gen i ofn, oriau ac oriau o'i amser, oherwydd mae'n anochel os byddwch chi'n dod yma ac y gellir gofyn cwestiwn i chi, nid yn unig unrhyw gwestiwn ar y brîff yr ydych chi'n digwydd meddu arno, ond unrhyw gwestiwn ar unrhyw ran o Lywodraeth Cymru, mae pob un penwythnos ychydig fel paratoi ar gyfer arholiadau terfynol, a dweud y gwir, i'r rhai ohonoch chi sy'n cofio hynny. Rydych chi'n treulio'r penwythnos cyfan yn adolygu yn y gobaith eich bod chi wedi gweld y cwestiwn a allai godi, ac yn aml iawn nid ydych wedi ei weld o gwbl.”

    Ychwanegodd, “pe bai gen i obaith ar gyfer y fforwm hwn a'r cwestiynau hyn, ein bod ni i gyd, dim ond weithiau, yn canolbwyntio ychydig yn fwy ar gynhyrchu golau yn hytrach na chynhyrchu gwres fyddai hwnnw. I'r nifer rhyfeddol o fawr o bobl sy'n ein gwylio ni yn y gwaith ac yn gwrando ar y pethau yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw, rwy'n credu, yn y pen draw, mai'r rheswm y maen nhw'n gwneud hynny yw oherwydd eu bod nhw'n gobeithio dysgu rhywbeth am gymhlethdod y dadleuon sy'n ein hwynebu, ac i adael y trafodaethau hyn yn teimlo eu bod nhw'n fwy gwybodus am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma ar eu rhan. Bob nawr ac yn y man, rwy'n credu y gallai rhoi dim ond ychydig o ystyriaeth i'r ffaith y byddai taflu ychydig o oleuni ar y pynciau hynny, yn hytrach na chynhyrchu gwres o'u cwmpas, arwain i'r Senedd wneud ei gwaith yng ngolwg pobl Cymru mewn ffordd y bydden nhw wir yn ei gwerthfawrogi.”

    Gallwch farnu drosoch eich hunain faint o olau, a faint o wres, sy'n cael ei gynhyrchu yn y sesiwn hon a'r sesiynau dilynol.

    Image caption: Mark Drakeford yn ei sesiwn olaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fis diwethaf
  8. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm - sesiwn gyntaf Vaughan Gething yn y swydd.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.