Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Sut alla i gadw fy mhlentyn yn ddiogel ar-lein?

Diweddarwyd: 27 Mai 2022

Mae 'na lawer o bethau y gallwch chi a’ch plant ei wneud i gadw’n ddiogel ar-lein. Dyma rai dolenni defnyddiol gan y BBC:

Neu ewch i wefan Internet Matters, lle mae cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i sicrhau fod ganddoch chi, fel rhieni, reolaeth dros eich dyfeisiau, gemau cyfrifiadur, mynediad i’r band-llydan a phlatfformau adloniant.

Gwasanaethau ac offer addas i blant ar y BBC

Os ydych chi’n edrych am rywbeth ar y BBC sy’n addas i blant, dyma lefydd da i ddechrau:

Sut ydw i'n gwybod fod cyfrifon y BBC yn ddiogel i fy mhlant?

Mae gennyn ni o bethau mewn lle er mwyn sicrhau fod plant yn ddiogel. Er enghraifft, dim ond enw defnyddiwr (dim eu henw go iawn) a dyddiad geni mae unrhyw blentyn o dan 13 oed yn ei roi wrth gofrestru.

Mae mwy o help gyda chyfrifon y BBC i blant yma.

Os ydych chi o dan 16 oed a thu allan i’r DU

Ni fyddwch chi'n gallu cofrestru cyfrif neu broffil BBC os ydych chi tu allan i'r DU ac o dan 16 oed. Os ydych chi tu allan i'r DU, ac â chyfrif plentyn yn barod, ni fydd yn darparu'r un mynediad i'r cynnwys penodol i blant sydd ar gael yn y DU.

Chi sy'n rheoli beth all eich plentyn ei wneud gyda'i gyfrif BBC

I atal plant rhag cael gafael ar Gynnwys sydd â label Cyfarwyddyd gallwch ddefnyddio’r Clo Cyfarwyddyd i Rieni.

Ni all plant o dan 13 oed gael mynediad at rai rhannau penodol heb ganiatâd rhiant neu warchodwr.

Gallwch osod caniatâd wrth greu cyfrif newydd i blentyn. Dilynwch y cyfarwyddiadau.

Os ydych chi eisiau rheoli caniatâd nes ymlaen, y ffordd hawsaf yw os oes gan y ddau ohonoch gyfrifon BBC. Wedyn gallwch gysylltu cyfrif eich plentyn i'ch cyfrif chi a gosod caniatâd unrhyw bryd. Os nad oes gennych chi gyfrif BBC, gallwch gofrestru am un.

Mae'n gyflym ac yn hawdd i'w wneud. Ond nid oes rhaid i chi gael cyfrif BBC i reoli caniatâd. Pan fydd eich plentyn yn ceisio gwneud rhywbeth newydd ar y BBC, fel gadael sylw ar wefan i blant, byddwn yn gofyn i chi gymeradwyo hyn. Byddwch unai yn derbyn e-bost, neu gallwch reoli caniatâd yma.

Mwy o wybodaeth am ganiatâd i blant

Ambell i beth i gadw mewn cof

  1. Mae gwasanaeth plant y BBC weithiau yn casglu gwybodaeth bersonol, fel mae rhannau eraill y BBC sydd i oedolion.
  2. Os welwn ni sylw ar negesfwrdd sy'n gwneud i ni bryderu fod plentyn mewn peryg, efallai y byddwn ni'n anfon y sylw a manylion eraill at bobl all helpu, fel yr NSPCC.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: