Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Addewid Preifatrwydd y BBC

Diweddarwyd: 3 Rhagfyr 2018

Mae'r BBC yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa.

Gallwn roi mwy o'r hyn rydych chi'n ei hoffi pan fyddwn ni'n eich deall chi'n well. I wneud hynny, rydyn ni’n gofyn i chi fewngofnodi i rai o’n cynnyrch a’n gwasanaethau. Rydyn ni hefyd 'yn defnyddio eich data er eich budd chi mewn dwy ffordd:

1. BBC sy'n fwy personol i chi

Mae'n ein helpu ni i wneud y BBC yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:

  • Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
  • Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r ydych chi’n byw
  • Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.

2. BBC sy'n well i bawb

Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb. Wrth i fwy o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae'n helpu i ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio fel y gallwn:

  • Sicrhau ein bod ni yn gwneud rhywbeth i bawb.
  • Dysgu mwy am beth rydych chi'n ei fwynhau fel y gallwn wella ein cynnwys yn y dyfodol.

Dyna pam rydyn ni'n gofyn i chi fewngofnodi a darparu ychydig o wybodaeth.

Ond drwy gydol hyn oll, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol a phreifat yn aros yn ddiogel.

Beth mae'r addewid preifatrwydd yn ei ddweud

Mae'r addewid preifatrwydd yn cwmpasu sut rydyn ni’n trin eich data ac yn rhoi rheolaeth i chi dros yr hyn sy'n digwydd iddo. Mae’n seiliedig ar dri phrif faes...

Tryloywder

Byddwn wastad yn esbonio’n glir pa ddata rydyn ni'n ei gasglu amdanoch chi a pham ein bod ni'n gwneud hynny. Byddwn ond yn casglu’r data sydd ei angen arnom i:

  • rhoi profiad gwell i chi
  • gwella ein gwasanaethau
  • cyflawni ein cyfrifoldebau fel gwasanaeth cyhoeddus.

Cewch ragor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd yma.

Dewis

Chi sy'n dewis sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Ac fe allwch chi reoli neu ddileu eich cyfrif BBC unrhyw bryd. Mae rhagor o wybodaeth am reoli eich cyfrif fan hyn.

Oherwydd ein bod ni'n wasanaeth cyhoeddus, byddwn ni'n eich helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â'ch data fel fod pawb yn cael y gorau o dechnolegau digidol a'r BBC. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth rydyn ni'n ei wneud â'ch data fan hyn.

Ymddiriedaeth

Mae eich ymddiriedaeth yn hynod bwysig i ni. Felly rydyn ni wedi ymrwymo i gadw eich data yn ddiogel. 

Rydyn ni'n addo i beidio byth â gwerthu eich manylion personol i unrhyw un ac i ddim ond defnyddio eich data yn fasnachol os ydych chi'n defnyddio un o wasanaethau masnachol y BBC.

Mae mwy o wybodaeth am cwcis fan hyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: