Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol – sut rydym yn trin eich data personol

10 Chwefror 2023

Ofcom (‘y Swyddfa Gyfathrebiadau’) yw'r rheoleiddiwr cyfathrebiadau ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae’n cywain ac yn prosesu data personol y mae ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau statudol a gweithredu fel corff cyhoeddus, gan gynnwys cyflogi a chontractio staff. Mae’r datganiad cyffredinol hwn yn berthnasol i’r holl ddibenion amrywiol hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn casglu data oddi wrthych yn uniongyrchol (er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am drwydded gennym). Ond, o bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i ni gasglu data personol amdanoch chi oddi wrth drydydd parti, fel darparwr eich gwasanaethau cyfathrebu.

Yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, mae’r Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol hwn yn rhoi'r wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod am y ffordd y bydd Ofcom yn casglu, yn prosesu ac yn storio'ch data personol, am faint y bydd yn ei gadw, eich hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw, a’r bobl y gall fod angen i ni ei rannu â nhw.

Pan fyddwn yn gofyn am ddata personol at ddiben penodol nad yw’n cael ei gynnwys yn y Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol hwn, byddwn yn esbonio pan mae angen y wybodaeth honno arnom, a’n sail gyfreithlon dros ei chasglu. Yn yr un modd, os byddwn yn y dyfodol yn bwriadu prosesu’ch data at ddiben heblaw’r un y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y diben hwnnw ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Mae Ofcom wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd yn unol â deddfwriaeth diogelu data.