Ofcom yn y Gwledydd a'r Rhanbarthau


Mae Ofcom yn gweithio ar ran pobl ar draws y DU, ei gwledydd a'i ranbarthau.

Mae'n ddyletswydd statudol arnom, ymysg pethau eraill, i gymryd barn a buddiannau pobl mewn gwahanol rannau o'r DU i ystyriaeth.

Mae swyddfeydd gan Ofcom yn Belfast, Caerdydd a Chaeredin – pob un â thîm ar gyfer y wlad dan sylw, dan arweiniad uwch gyfarwyddwr. Mae ein pencadlys wedi'i leoli yn Llundain, ac mae gennym hefyd swyddfa ranbarthol ym Manceinion – hyb technoleg â ffocws ar waith diogelwch ar-lein.

Ym mhob gwlad mae pwyllgor cynghori sy'n rhoi mewnwelediad manwl ac arbenigol i Ofcom ynghylch yr heriau penodol a wynebir gan ddinasyddion a defnyddwyr mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae buddiannau cenedlaethol hefyd yn cael eu cynrychioli gan Aelodau Bwrdd Cynnwys a Phanel Defnyddwyr Cyfathrebiadau Ofcom.

Manylion cyswllt

Mae manylion cyswllt swyddfeydd Ofcom yn y gwledydd a'r rhanbarthau ar gael isod.

Nid yw ein swyddfeydd cenedlaethol a rhanbarthol yn delio â chwynion gan ddefnyddwyr, gwylwyr na gwrandawyr. Gallwch wneud cwyn i ni ar ein gwefan.