Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Storm Isha: Disgwyl gwyntoedd cryfion a glaw

Map o GymruFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd Cymru yn cael glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn ystod y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wynt a rhybudd melyn am law ar draws Cymru dros y penwythnos.

Mae disgwyl i nerth gwyntoedd Storm Isha gyrraedd 70 mya mewn ardaloedd arfordirol.

Mae'r rhybudd oren am wynt yn weithredol o 18:00 nos Sul tan 09:00 fore Llun tra bod y rhybudd glaw mewn grym o 06:00 fore Sul tan 06:00 fore Llun.

Ffynhonnell y llun, Tegwen Morris

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y tywydd achosi llifogydd, difrod i adeiladau a thrafferthion teithio.

Daw hyn wedi i rew ac eira orfodi rhai ysgolion i gau ddydd Iau a ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig