Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhybudd melyn: Rhew yn debygol yn ne Cymru nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Y swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i dde Cymru.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am 15:00 ddydd Llun tan 03:00 ddydd Mawrth.

Mae disgwyl rhew ac o bosib ychydig o eira mewn mannau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd yn arwain at lonydd a phalmentydd llithrig.

Dyma'r siroedd yng Nghymru sy'n debygol o gael eu heffeithio:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Merthyr Tudful

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Sir Benfro

  • Sir Fynwy

  • Sir Gaerfyrddin

  • Torfaen

Pynciau Cysylltiedig