Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Tom Bown: Y dyn o Fôn sy'n mesur glawiadau ers 1948

  • Cyhoeddwyd
Tom BownFfynhonnell y llun, Jane Bown
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tom Bown nad yw wedi methu diwrnod bron o fesur faint o law mae hi wedi ei fwrw

Mae dyn 85 oed o Ynys Môn wedi bod yn mesur faint o law y mae hi wedi'i fwrw bob bore ers 1948.

Ers yn 10 oed, mae Tom Bown o Lwydiarth Esgob yn parhau â'r traddodiad y dechreuodd ei daid a oedd wedi sefydlu gorsaf dywydd ger y fferm deuluol yn 1890.

Mae'r mesuriadau ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu cymryd bob bore yn brydlon am 09:00.

Mae Mr Bown bellach wedi derbyn gwobr gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi iddo fod yn gwneud y gwaith yn ddi-dâl am 75 mlynedd.

Dywed nad yw "wedi methu diwrnod bron" o fesur glawiad a hynny wedi iddo ddechrau gwneud y gwaith yn wirfoddol.

Mae wedi bod ar ambell daith dramor ac wedi bod yn sâl ar adegau ond nid oes diwrnod wedi pasio nad yw cawodydd wedi'u mesur.

"Pan dwi'n mynd ar wyliau mae fy mab neu rhywun arall yn mesur ar fy rhan," meddai.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr orsaf dywydd sy'n mesur y glaw

Fe ddechreuodd Mr Bown fesur cawodydd yn fuan wedi iddo gael ei ben-blwydd yn 10 oed er mwyn parhau ag arfer ei daid.

Ond yn fuan fe ddaeth hi'n amlwg fod y mesuriadau yn ddefnyddiol iddo ar y fferm.

"'Da ni'n gwybod yn union faint mae hi wedi'i fwrw ac mae hynny yn lot o help i waith y fferm - felly mae yna ddefnydd dwbl i'r gwaith," meddai.

Bob mis mae'n anfon ei gofnodion i Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae gwyddonwyr yn defnyddio'r data i ymchwilio i newid hinsawdd.

"Dim fi ydy'r unig un, mae'n rhaid bod miloedd yn gwneud hyn ar draws Prydain - mae 'na fesurwyr ymhob man," meddai.

Ond mae'n dweud bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud wrtho nad ydyn nhw gwybod am neb sydd wedi gwneud y swydd am gyfnod mor hir.

Ffynhonnell y llun, Jane Bown
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Bown wedi derbyn plac i gydnabod ei gyfraniad

Fe gafodd Mr Bown MBE am ei waith 25 mlynedd yn ôl wedi i'r Swyddfa Dywydd roi ei enw ymlaen a dywed fod derbyn yr anrhydedd yn sioc ar y pryd.

Mae bellach wedi derbyn plac i gydnabod ei gyfraniad am dri chwarter canrif.

Dywed Clare Pillman, Pennaeth Awdurdod Afonydd Cymru, bod gwaith Mr Bown yn "allweddol i'r astudiaeth o dywydd yn y DU".

"Mae cofnodi bob diwrnod am dros 75 mlynedd yn dipyn o gamp ac yn rhywbeth ry'n yn ei werthfawrogi'n fawr," meddai.

"Dim ond drwy arsylwi manwl o'r fath y gallwn ni gynhyrchu cofnodion hirdymor am yr hyn sy'n digwydd i'r hinsawdd.

"Rwy'n diolch i Mr Bown am ei ymrwymiad ac yn ei longyfarch ar ei waith."

Ffynhonnell y llun, Jane Bown
Disgrifiad o’r llun,

Mr Bown a'i gi Meg yn derbyn y plac i ddiolch am ei waith

Dywed Stuart Herridge, o'r Swyddfa Dywydd, bod cofnodi am gyfnod mor hir yn "rhywbeth prin a gwerthfawr".

"Ry'n yn hynod ddiolchgar iddo fe a gwirfoddolwyr eraill am eu gwaith."

Pynciau Cysylltiedig