Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Storm Jocelyn: Gwynt o 75mya a thai heb drydan

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Y tonnau'n arw ar y môr oddi ar Aberystwyth brynhawn Mawrth

Mae pobl wedi colli eu cyflenwad trydan mewn sawl ardal yng Nghymru wrth i Storm Jocelyn daro'r DU.

Mae dros 700 o gwsmeriaid heb drydan yn Nhref-y-Clawdd ym Mhowys, a 65 yng Nglynebwy.

Mae gwefan Scottish Power yn dangos fod cartrefi wedi colli pŵer yn ardaloedd Dinbych a Llanelwy - dwy ardal oedd eisoes wedi cael eu taro'n wael gan Storm Isha ychydig ddyddiau yn ôl - a Wrecsam.

Cafodd hyrddiad o 97mya ei gofnodi yng Nghapel Curig dros nos ac 80mya yn Aberdaron.

Pa rybuddion sydd mewn grym?

Mae dau rybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym, gyda'r ddau'n gorgyffwrdd.

Mae'r rhybudd cyntaf mewn grym ers 12:00 ddydd Mawrth tan 15:00 brynhawn Mercher, gan effeithio ar bob rhan o Gymru heblaw am chwe sir y gogledd.

Daeth ail rybudd i rym am 16:00 brynhawn Mawrth tan 13:00 ddydd Mercher yn y gogledd a rhannau o Geredigion a Phowys, ac roedd disgwyl gwyntoedd cryfach fel rhan o'r rhybudd yma.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion, dolen allanol 'byddwch yn barod' am lifogydd posib.

Disgrifiad o’r llun,

Lôn dan ddŵr rhwng Llanrwst a Threfriw ar ôl Storm Isha

Mae'r A483 i'r de o Wrecsam ar gau rhwng Rhiwabon a chylchfan Halton, sy'n cysylltu â'r A5 oherwydd gwyntoedd cryfion

Bu'n rhaid cau rhan arall o'r ffordd ddydd Mawrth am rai oriau oherwydd pryderon am am wyntoedd cryfion ar draphontydd Dyfrdwy a Ceiriog, oedd yn golygu dargyfeiriad hir i yrwyr o ryw 13 milltir trwy drefi'r Waun a Llangollen.

Mae Pont Sir y Fflint hefyd ar gau am y tro ond mae'r M48 Pont Hafren, a fu'n rhaid cau tua 12:00 ddydd Mawrth, wedi ailagor fore Mercher.

Mae traffig ar draws Pont Britannia rhwng Gwynedd ac Ynys Môn yn dal wedi eu cyfyngu i 30mya ac mae yna gyfyngiadau ar gyfer beiciau, beiciau modur a charafanau.

Dywedodd Traffig Cymru ddydd Mawrth bod "y lonydd sydd ar gau i'r ddau gyfeiriad bellach yn aros yn eu lle tan fore fory [oherwydd] nad yw cyflymderau gwynt wedi gostwng digon iddynt gael eu symud yn ddiogel".

'Amodau heriol'

Daw Storm Jocelyn yn dynn ar sodlau Storm Isha a achosodd i dros 20,000 o gwsmeriaid golli eu cyflenwad trydan rhwng nos Sul a nos Lun.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod "unrhyw ymdrechion adfer wedi Storm Isha yn debygol o gael eu hamharu".

Dywedodd SP Energy Networks ddydd Mawrth bod peirianwyr wedi "gweithio'n galed dan amodau heriol" i adfer cyflenwadau.

Jocelyn yw'r 10fed storm i'r Swyddfa Dywydd ei henwi ers dechrau'r tymor presennol ym mis Medi.

Pynciau Cysylltiedig