Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Y Wladfa: 'Argyfwng' ariannol yn poeni cymunedau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Gwion Elis-Williams a'i bartner Nia Jones, gyda'u merch CelynFfynhonnell y llun, Gwion Elis-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwion Elis-Williams a'i bartner Nia Jones, gyda'u merch Celyn

Mae'r sefyllfa economaidd yn yr Ariannin yn "argyfwng" sy'n effeithio'n ddrwg ar gymunedau Cymraeg Y Wladfa ym Mhatagonia, meddai trigolion yno.

Yn ôl ystadegau swyddogol llywodraeth yr Ariannin, roedd chwyddiant misol yn 11% ym mis Mawrth, ond chwyddiant blynyddol yn 287.9%.

Mae pobl yn gorfod cwtogi ar y fasged siopa, mae ysgolion sy'n addysgu trwy'r Gymraeg "yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd" a chostau teithio i eisteddfodau yn bryder i lawer, meddai Gwion Elis-Williams.

Mae Andres Evans hefyd, perchennog bwyty Gwalia Lân yn y Gaiman, wedi disgrifio'r problemau yn sgil cost rhai bwydydd a diodydd yn dyblu tua chyfnod y Nadolig y llynedd.

Ac mae rhai plant wedi gadael Ysgol yr Hendre oherwydd y sefyllfa economaidd, meddai cadeirydd Cylch Cymraeg Trelew sy'n rhedeg yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd yn yr Ariannin yn annog siopwyr i "brynu heddiw, mae'n rhatach na phrynu yfory"

'Talcen caled'

Mae athrawon yn yr Ariannin yn ennill tua $300.000ARG ar gyfartaledd, sy'n llai na £300 y mis, ac mae ystadegau diweddaraf gan y llywodraeth yn awgrymu bod teulu o bedwar bellach angen ennill tua $700.000 y mis er mwyn gallu prynu digon o nwyddau sylfaenol (ffrwythau, llysiau, bara, cig) i aros uwchben y llinell dlodi.

Dywedodd Gwion Elis-Williams, sydd wedi ymgartrefu gyda'i bartner Nia a'u merch 6 oed Celyn Mai yn Nhrevelin yng Nghwm Hyfryd yng ngorllewin y Wladfa, "mae gan lawer o athrawon swydd arall yn ystod y prynhawniau neu fin nos. Mae'r sefyllfa'n troi'n argyfwng, a does dim llawer o ddewis gan bobl ar wahân i dorri lawr ar y fasged siopa.

"Gyda'r gaeaf ar y ffordd, bydd llawer o deuluoedd yn wynebu talcen caled, wrth i brisiau nwy godi dros y misoedd oer."

Mae Nia yn athrawes Gymraeg yn ysgol uwchradd Ysgol y Cwm: "Dwi a Nia wedi bod yn byw yn yr Ariannin ers dros wyth mlynedd a phan symudon ni yma, roedd £1 werth ta $15ARG. Heddiw mae £1 werth dros $1200ARG.

"Mae chwyddiant wedi bod yn rhan o fywyd bob dydd yma ers blynyddoedd, ac er bod y gorchwyddiant diweddar yma yn rhywbeth newydd i ni, dyma'r trydydd cyfnod o'r fath o fewn cof byw."

Ffynhonnell y llun, Gwion Elis-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Trevelin, gyda mynyddoedd yr Andes yn y pellter

Mae Gwion Elis-Williams yn rhoi gwersi Cymraeg i oedolion fin nos gydag Ysgol Gymraeg yr Andes, yn Ysgol y Cwm.

Mae hefyd yn gwneud ychydig o waith yn tywys ymwelwyr, yn gweithio ar-lein fel ysgrifennydd i Undeb Cymru a'r Byd, ac mae ef a Nia ar fin agor gwesty bach yng nghanol Trevelin.

Esboniodd bod costau popeth yn cynyddu o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos.

"Mae cost litr o betrol, er enghraifft, bron wedi treblu dros gyfnod o chwe mis ac mae'r gost hon wedi cael ei phasio i lawr y gadwyn ac wedi effeithio costau trafnidiaeth a nwyddau.

"Mae torth o fara bellach yn costio oddeutu $2000ARG (tua £1.80), sy'n swnio'n gymharol rad ac yn debyg i brisiau nôl adref mae'n siŵr, ond beth sydd rhaid cofio ydi bod cyflogau heb gadw fyny gyda chwyddiant."

Dywedodd bod torth o fara yn werth tua 0.7% o gyflog athrawon - "buasai cyfradd debyg yng Nghymru yn golygu bod torth yn costio £17.50 i rywun sy'n ennill tua £2,500 y mis!"

Mewn cymhariaeth, mae chwyddiant yn y DU wedi bod yn gostwng yn raddol ers iddo gyrraedd uchafbwynt o 11.1% ar ddiwedd 2022.

Gostyngodd i 3.2% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, i lawr o 3.4% y mis blaenorol, yn ôl ffigurau swyddogol.

Yn ystod ymweliad diweddar â Dyffryn Camwy - lle ymsefydlodd y Cymry yn gyntaf ym 1865 - sylwodd Gwion Elis-Williams bod "sawl un yno'n pryderu na fyddent yn gallu fforddio teithio draw i Eisteddfod Trevelin ym mis Mai - y corau, y grwpiau cyd-adrodd a dawnsio gwerin ayb - oherwydd costau petrol, llety a phopeth arall".

"Mi fydd hyn yn drueni mawr, oherwydd yr eisteddfod ydy uchafbwynt bywyd Cymraeg pob un o drefi a phentrefi'r Wladfa.

"Mi fydd hi hefyd yn anodd iawn i bobl yr Andes deithio draw ar gyfer yr eisteddfodau draw ar ochr arall y dalaith yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn," meddai.

'Anodd'

Dywedodd Andres Evans, perchennog bwyty Gwalia Lân yn y Gaiman, ei fod yn "amser anodd yn yr Ariannin".

Yn 2015, llwyddodd Mr Evans a Shan Cothi i dorri record byd am y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd, fel rhan o'r dathliadau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Y Wladfa ym 1865 - gallwch wylio'r fideo yma, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Record byd - Andres Evans yn canu Calon Lân ym Mhatagonia

Meddai, "Efo Gwalia Lân, cawsom ni lot o broblemau yn ystod mis Rhagfyr - prisiau gwahanol yn cyrraedd dwywaith yr wythnos".

Esboniodd bod prisiau cig, gwin, cwrw a diodydd heb alcohol wedi dyblu o gwmpas cyfnod y Nadolig.

"Nawr, mae prisiau newydd y trydan a'r nwy wedi cyrraedd - tua 300% yn fwy!

"Mae'r un peth efo'r ysgolion preifat a'r cwmni iechyd.

"Popeth yn mynd yn ddrud ac mae cyflog yn yr un lle".

Mae'n aelod o gymdeithas Eisteddfod pobl ifanc, a dywedodd eu bod yn "edrych ymlaen at ddathlu yr Eisteddfod, ond 'dan ni'n poeni am ffeindio arian yn gyntaf ac am dalu am lot o bethau".

"Mae argyfwng yn digwydd yn aml iawn yn yr Ariannin yn anffodus," meddai.

'Y gwaethaf'

Ffynhonnell y llun, Plas y Coed
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd y tymor y gwaethaf alla i ei gofio" meddai perchennog Plas y Coed

Dywedodd Ana Chiabrando Rees, perchennog tŷ te a gwesty Plas y Coed yn y Gaiman, "cawson ni lawer o drafferth yn ystod ein haf ni (Ionawr- Mawrth) gan ei bod hi'n dymor uchel fel arfer. Ond nid aeth llawer o bobl ar ei gwyliau yn y diwedd, oherwydd y prisiau, ac roedd y tymor y gwaethaf alla i ei gofio.

"Cawson ni o leiaf 90% o bobl yn llai nag arfer yn y tŷ te, a 50% yn llai yn y gwesty."

Mae Ana Chiabrando Rees hefyd yn gadeirydd Cylch Cymraeg Trelew sy'n rhedeg Ysgol yr Hendre, Trelew, a dywedodd bod yr ysgol "wedi colli rhai o'r plant oherwydd y sefyllfa economaidd, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, doedd dim digon o arian i dalu'r cyflogau llawn pan oedd angen ei wneud ddechrau Mawrth.

"Mae'r sefyllfa yn ansefydlog iawn ar y foment."

Ffynhonnell y llun, Rhisiart Arwel
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai plant wedi gadael Ysgol yr Hendre oherwydd y sefyllfa economaidd meddai Ana Chiabrando Rees

'Brwydro'

Mae Gwion Elis-Williams ar bwyllgor llywodraethwyr Ysgol y Cwm, yr ysgol gynradd ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg gyntaf yn Nhrevelin, a'r drydedd yn y Wladfa, a agorodd yn 2016.

Dywedodd bod yr ysgol, "fel pob un o ysgolion y Wladfa... yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd".

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Pedair athrawes sy'n dysgu gwersi Cymraeg yn Ysgol y Cwm

Esboniodd, "mae llywodraeth talaith Chubut yn talu cyflogau 4 o athrawon cynradd ac uwchradd Ysgol y Cwm, ond mae'r ddwy ysgol yn cyflogi bron i 40 o bobl.

"Felly mae'r ysgol yn dibynnu ar y ffioedd sy'n cael eu talu gan y rhieni er mwyn talu cyflogau'r staff, ynghyd a thaliadau pensiwn a thaliadau'r system iechyd, taliadau yswiriant - heb sôn am y biliau nwy, trydan a dŵr.

"Gyda'r sefyllfa economaidd, dydy hi ddim yn ddichonadwy gofyn am ragor o arian gan y rhieni bob mis, felly mae'n rhaid chwilio am gymorth allanol i dalu'r costau hyn - cynnal digwyddiadau fel ffeiriau sbarion a phrynhawniau te Cymreig.

"Mae'r ysgol hefyd yn ddiolchgar dros ben am y cymorth ariannol sy'n dod gan wahanol unigolion a mudiadau nôl yng Nghymru.

"Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol bron yn amhosib o dan yr amodau presennol ond eto mae'n rhaid symud ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Gwion Elis-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Andes yn gefnlen i wersi ymarfer corff yn ysgol gynradd Ysgol y Cwm

Yn Nhrevelin, mae ysgol uwchradd Ysgol y Cwm wedi agor ei drysau am y tro cyntaf eleni.

Ar hyn o bryd, mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal yn adeilad yr ysgol gynradd, a'r gobaith ydi gallu adeiladu ysgol uwchradd newydd sbon.

Ychwanegodd Gwion Elis-Williams, "bydd criw bychan yn teithio draw i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni i barhau gyda'r ymdrechion codi arian.

"Mae hi'n gyfnod anodd ar hyn o bryd, a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd mewn chwe mis neu flwyddyn, felly mae'n rhaid bwrw 'mlaen a cheisio gwneud y gorau o bethau".