Adolygiad Cynulleidfaoedd y BBC

30 Tachwedd 2023

Boed ar deledu, radio neu ddyfeisiau clyfar, mae cynulleidfaoedd yn wynebu amrywiaeth aruthrol o ddewisiadau, gyda llawer yn tueddu tuag at wasanaethau ffrydio a chyfryngau cymdeithasol fel eu llwyfannau cynnwys dewisol. Mae'r newid hwn yn her sylweddol i ddarlledwyr traddodiadol wrth iddynt geisio apelio at y cynulleidfaoedd ehangaf ar draws eu holl wasanaethau.

Dyma her i'r BBC yn benodol o ystyried ei gylch gwaith i gyflawni ar gyfer pob cynulleidfa, a'i fodel ariannu unigryw. Rydym yn cydnabod bod y BBC yn wynebu pwysau ariannol, ond mae'n rhaid iddo barhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddod â chynnwys i gynulleidfaoedd ar draws ei holl lwyfannau.

Ers dechrau rheoleiddio'r BBC, mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson bod lefelau boddhad yn is ymhlith cynulleidfaoedd yn yr hyn a elwir yn draddodiadol yn grwpiau economaidd-gymdeithasol D ac E. Yn aml, cyfeirir at bobl o grwpiau D ac E fel rhai o grŵp economaidd-gymdeithasol 'is', sydd â statws economaidd-gymdeithasol 'is' neu o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Maent yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn ddi-waith, yn anabl neu wedi ymddeol gyda dim ond pensiwn y wladwriaeth. Mae'r grwpiau hyn yn cyfrif am bron i chwarter poblogaeth y DU.

Rydym wedi cynnal adolygiad manwl, i ddeall pa ffactorau sylfaenol allai fod yn gyrru'r lefelau boddhad is hyn. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal ymchwil newydd gyda chynulleidfaoedd D ac E, gan gynnwys cyfweliadau manwl a grwpiau ffocws ledled y DU, ac wedi cynnal dadansoddiad pellach o'r wybodaeth a'r data helaeth a gasglwn ar hyn o bryd mewn perthynas â'r BBC.

Rydym wedi ymgysylltu'n weithredol â rhanddeiliaid diwydiant ac academaidd, ac rydym wedi cwrdd â thimau a sefydliadau strategaeth, polisi, ymchwil a chomisiynu'r BBC sy'n cynrychioli'r grwpiau cynulleidfa hyn.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad llawn a'n dogfen ymchwil isod.

BBC Audiences Review (PDF, 1.3 MB)

Adolygiad Cynulleidfaoedd y BBC (PDF, 1.4 MB)

Exploring D and E socio-economic groups’ relationship with the BBC (PDF, 2.0 MB)