Sut i ddefnyddio ap BBC Cymru Fyw ar iPhone
- Cyhoeddwyd
Mae ap BBC Cymru Fyw yn cynnig gwasanaeth byw Cymraeg sy'n cynnwys y newyddion a'r gorau o Gymru ar flaenau eich bysedd. Dyma'r hyn sydd yn yr ap:
Heddiw - y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni allanol
Prif Straeon - y prif straeon newyddion
Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru gan gynnwys blog Vaughan Roderick
Radio - cyfle i wrando'n fyw ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Cyfrannu - anfonwch eich straeon, negeseuon a lluniau'n syth at BBC Cymru Fyw
Ydy'n bosib cynnig adborth am ap newydd BBC Cymru Fyw?
Os oes ganddoch chi sylw neu gynnig am ap BBC Cymru Fyw, e-bostiwch [email protected], dolen allanol
Os ydych chi am wneud cwyn ffurfiol am yr ap, ewch i dudalen Cwynion y BBC
Pam nad ydw i'n gallu gweld y llif byw?
Mae'r llif byw yn cael ei ddiweddaru'n gyson rhwng 08:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.Tu allan i'r oriau hynny bydd modd edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r diwrnod. Ar benwythnosau bydd adran Heddiw'r ap yn dangos prif straeon y dydd yn y drefn maent yn cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, mae yna rai achlysuron neu ddigwyddiadau arbennig fel yr Eisteddfod Genedlaethol pan fydd y llif byw yn cael ei ddiweddaru ar y penwythnosau hefyd.
Sut ydw i'n llwytho'r cynnwys diweddaraf ar yr ap?
Tynnwch y sgrin i lawr er mwyn llwytho'r cynnwys diweddaraf.
Sut ydw i'n rhannu cynnwys?
Mae'r ap yn gadael i chi rannu'r cynnwys drwy Facebook, Twitter ac ar e-bost. Er mwyn gwneud hyn, tapiwch ar y botwm Rhannu - siâp sgwâr gyda saeth ar ei fyny - a dewis sut ydych chi eisiau rhannu'r cynnwys o'r rhestr.
Bydd rhaid i chi sicrhau fod eich cyfrif Facebook, Twitter neu e-bost wedi ei gysylltu gyda'ch dyfais er mwyn gwneud hyn.
Sut ydw i'n cyfrannu i Cymru Fyw?
Drwy'r ap, gallwch anfon llun, stori neu neges yn syth at dîm cynhyrchu BBC Cymru Fyw. I wneud hynny, tapiwch y sgwâr bach yng nghornel chwith/uchaf yr ap sy'n ymddangos ar y faner goch. Bydd rhaid i chi sicrhau fod eich cyfrif e-bost wedi ei gysylltu gyda'ch dyfais er mwyn gwneud hyn.
Weithiau, bydd eich cyfraniadau yn cael eu cyhoeddi, gyda'ch enw a'ch lleoliad, oni bai eich bod yn dweud fel arall. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi byth.
Wrth anfon lluniau aton ni, dylech chi byth roi eich hunain na neb arall mewn perygl na thorri unrhyw gyfraith. Sicrhewch eich bod chi wedi darllen y telerau ac amodau.
Alla i wrando'n fyw ar BBC Radio Cymru?
Ewch i adran Radio yr ap er mwyn gwrando'n fyw ar eich hoff rhaglenni ar BBC Radio Cymru o 5 y bore tan hanner nos.
Cofiwch, mae'n bosib bydd eich rhwydwaith yn codi taliad am ddefnyddio data
Sut alla i ddefnyddio ap BBC Cymru Fyw pan 'dyw'r ddyfais ddim wedi cysylltu â'r we?
Bydd yr ap yn arbed straeon ar y ddyfais i'w darllen pan 'does yna ddim cysylltiad â'r we.
Gan fod clipiau fideo a Radio Cymru yn cael eu ffrydio i'r ddyfais, fydd rhain ddim ar gael pan does dim cysylltiad â'r we.
Rhannu ystadegau
Rydyn ni'n casglu data ystadegol ynglŷn â sut mae'r ap yn cael ei ddefnyddio er mwyn ein helpu ni i ddysgu beth sydd yn gweithio a beth sydd fwyaf defnyddiol i chi.
Y mwyaf o ddata allwn ni ei gasglu, y gorau, fel ein bod ni'n gallu dysgu yr hyn mae pobl ei eisiau o apiau fel hyn.
Beth os nad ydw i am i chi gasglu fy ystadegau?
Mae'r holl ddata yn anhysbys (h.y. fyddwn ni ddim yn gwybod pa dudalennau mae person penodol yn ymweld â nhw, na'u lleoliad, ond byddwn ni'n gallu gweld arferion cyffredinol ynglŷn â pha dudalennau a lleoliadau sydd fwyaf poblogaidd). Wrth gwrs, os nad ydych chi eisiau i ni gasglu'r data yma, wnawn ni ddim.
Er mwyn peidio rhannu eich ystadegau, ewch i'r Gosodiadau a diffodd 'Rhannu Ystadegau'.
Bydd y BBC ond yn defnyddio gwybodaeth ystadegau defnyddio er mwyn dadansoddi a gwella'r gwasanaethau mae'r ap yn eu cynnig. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Ble mae Gosodiadau'r ap?
Ewch i adran Gosodiadau ('Settings') eich ffôn a chwilio am ap Cymru Fyw.