Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Gyrrwr meddw yn cyfaddef achosi marwolaeth dynes ifanc

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Dyfed-Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd deulu Miriam Briddon ei bod yn "berson creadigol fyddai'n cael ei methu'n anferthol"

Mae dyn o Geredigion wedi pledio'n euog i yfed a gyrru ac achosi gwrthdrawiad ble bu farw dynes 21 oed.

Bu farw Miriam Briddon wedi'r gwrthdrawiad rhwng ei char Fiat Punto a Volkswagen Golf oedd yn cael ei yrru gan Gareth Entwhistle ger Ciliau Aeron.

Fe wnaeth Entwhistle, 34 oed o Ddyffryn Aeron, gyfaddef i achosi marwolaeth trwy yrru yn ddiofal tra'n feddw ar 29 Mawrth y llynedd.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ddiwedd y mis.

Fe gafodd Ms Briddon, oedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi, ei disgrifio gan ei theulu fel "person creadigol fyddai'n cael ei cholli'n anferthol".