Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhybudd melyn am ragor o law trwm ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd
Map o GymruFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd yn dod i ben am 18:00 ddydd Mercher

Mae yna rybudd y gallai glaw trwm achosi trafferthion mewn rhannau helaeth o Gymru ddydd Mercher.

Bydd rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn dod i rym am 00:00 fore Mercher ac yn dod i ben am 18:00.

Daw ar ôl i rannau o Gymru gael eu taro gan lifogydd difrifol ddydd Sul.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd a tharfu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Caerfyrddin

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Dinbych

  • Gwynedd

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Penfro

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

  • Wrecsam

Pynciau Cysylltiedig