Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Storm Gerrit: Gwyntoedd cryf a glaw trwm yn taro Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tonnau'n taro pier Biwmares ddydd MercherFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Ani-Caul
Disgrifiad o’r llun,

Tonnau'n taro pier Biwmares ddydd Mercher

Mae gwyntoedd cryf a glaw trwm wedi achosi trafferthion ar draws Cymru wrth i Storm Gerrit daro'r DU.

Mae'r rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym ar draws Cymru ers 18:00 nos Fercher ac yn para tan 03:00 fore Iau.

Bu'n rhaid cau ffyrdd, canslo teithiau trên ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd, dolen allanol.

Nos Fercher fe gyhoeddodd Awdurdod Harbwr Caerdydd eu bod wedi cau rhodfa Mermaid Quay "er lles iechyd y cyhoedd", gan fod lefelau'r afon yna yn uchel.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ychwanegodd yr awdurdod: "Mae disgwyl i lefelau barhau'n uchel dros nos felly bydd y rhodfa ar gau tan o leiaf yn hwyr bore 'fory pan fydd yna asesiad pellach."

Maen nhw'n gofyn i bobl osgoi'r ardal yn y cyfamser.

Galwadau i'r heddlu

Roedd disgwyl i Storm Gerrit effeithio ar ardaloedd yn Sir Gâr, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe, Bro Morgannwg, Wrecsam a Sir Benfro.

Mae'r rhybuddion mwyaf difrifol wedi bod yn Gâr - yn ardaloedd isel rhwng Pontargothi a Phontynyswen ar hyd Afon Cothi, rhwng Llandeilo and Abergwili ar bwys Afon Tywi a ger Afon Cynin yn Sanclêr.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mapiau rhybuddion melyn y Swyddfa Dywydd wrth i Storm Gerrit daro ddydd Mercher

Roedd yna rybudd ar wahân am law trwm ac fe ddaeth hwnnw i ben am 18:00 nos Fercher.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn derbyn "nifer o alwadau" am ddŵr llonydd ar ffyrdd yn Sir Benfro.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd disgwyl gwyntoedd hyd at 50 i 60 milltir yr awr yn rhannau o'r gorllewin, gyda'r gwyntoedd cryfaf ar dir uchel.

Roedd yr arbenigwyr hefyd yn disgwyl hefyd i'r amodau effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus, lonydd a chyflwr y ffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau Afon Cynin, yng Nghaerfyrddin, wedi codi yn sgil y storm

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod 18 o deithiau trên wedi cael eu canslo ac maen nhw'n cynghori'r cyhoedd i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf oherwydd "amodau tywydd sy'n gwaethygu".

Yng Ngwynedd, bu'n rhaid cau'r A487, o droiad Harlech yng Ngellilydan i droiad Betws-y-coed ym Maentwrog, wedi i goeden syrthio, a bu'n rhaid cau'r A484 rhwng Cenarth yng Ngheredigion a Llandygwydd yn Sir Gâr, am yr un rheswm.

Mae gwyntoedd cryfion hefyd wedi golygu bod rhaid cau Pont Hafren ar yr M48, ac wedi achosi i'r terfyn cyflymder ostwng i 30mya ar Bont Britannia.

Roedd Pont Cleddau ar gau i gerbydau uchel, ond roedd wedi ailagor erbyn 15:30.

Bu'n rhaid cau rhan o'r AA465 - Ffordd Blaenau'r Cymoedd - rhwng cylchdro A470 Cefn Coed, Merthyr Tudful a'r B4276 yn Llwydcoed oherwydd tirlithriad.

Pynciau Cysylltiedig