Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Storm Henk: Gwyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Grym y dŵr yn Afon Clydach fore Mawrth wrth i Storm Henk daro

Mae dŵr wedi mynd mewn i nifer o dai yn ardal Porth Tywyn yn Sir Gâr wrth i Storm Henk daro Cymru.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi delio ag achosion o lifogydd mewn 34 cartref yn Isgraig yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren wrth i Storm Henk ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm.

Roedd y rhybudd mewn grym tan 20:00 nos Fawrth ar draws rhannau helaeth o'r de - lle roedd hyrddiadau o hyd at 80 mya yn bosib mewn ardaloedd arfordirol.

Ffynhonnell y llun, @radiojagger
Disgrifiad o’r llun,

Car dan ddŵr ar y B4265 ger Llanilltud Fawr

Ffynhonnell y llun, Geoff Williams
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar Bont Mullock ger Marloes yn Sir Benfro fore Mawrth

Dywedodd cwmni National Grid bod 717 o'u cwsmeriaid nhw yn ne a gorllewin Cymru wedi bod heb drydan brynhawn Mawrth.

Mae hynny'n cynnwys 337 o gartrefi yng Nghwm Llyfni, 145 yn Hendy, 62 ym Mynydd Cynffig a 72 yn y Bont-faen.

Disgrifiad o’r llun,

Y dŵr yn codi o dan Pont Ddyfi ym Machynlleth fore Mawrth ond mae modd teithio arni ar hyn o bryd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwasanaethau ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi gael eu heffeithio ac y gallai adeiladau gael eu difrodi wrth i deils chwythu oddi ar doeau.

Yn ogystal mae Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol wedi cyhoeddi sawl rhybudd am lifogydd.

Mae'r rhybuddion yn cynnwys un rhybudd difrifol am lifogydd ar gyfer Afon Rhydeg ger Dinbych-y-pysgod.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw yn para tan 21:00 nos Fawrth

Mae timau achub hefyd wedi cael eu hanfon i Barc y Santes Fair yn Aberdaugleddau wrth i ddŵr lifo o gaeau gerllaw.

Ym Mronllys ger Aberhonddu mae ymdrechion i atal dŵr rhag mynd i adeiladau.

Yn y cyfamser, ym Mhendinas yn Aberystwyth mae'r gwasanaethau brys wedi bod y delio â'r cerrig sydd wedi disgyn oddi ar y gofgolofn i Dug Wellington.

Yn Abertawe mae atyniad Winterland wedi cau am weddill y tymor - a hynny yn gynt na'r disgwyl oherwydd y tywydd gwael.

Disgrifiad o’r llun,

Y ffordd rhwng Llandysul a Chapel Dewi fore Mawrth

Fore Mawrth roedd y trenau rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a de Cymru yn cael eu dargyfeirio oherwydd llifogydd rhwng Swindon a Bristol Parkway.

Mae'r glaw trwm wedi effeithio hefyd ar y gwasanaethau trên rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac i Ddoc Penfro.

Roedd y rhybudd oren am wynt yn berthnasol i siroedd Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw achosi llifogydd i rai cartrefi a busnesau yn ogystal â phroblemau teithio a dim trydan.

Pynciau Cysylltiedig