Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhybudd melyn am rew ac eira ganol wythnos

  • Cyhoeddwyd
Llantysilio, Sir DdinbychFfynhonnell y llun, Ann 97/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn ardal Llantysilio, Sir Ddinbych ddydd Llun

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio, dolen allanol fod rhew ac eira yn bosib mewn rhannau o Gymru ddydd Mawrth, Mercher ac Iau.

Y rhannau o Gymru y mae'r tywydd yn debygol o effeithio arnynt yw siroedd Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam ddydd Mawrth, Mercher ac Iau a siroedd Caerfyrddin, Penfro ac Ynys Môn ddydd Mercher ac Iau yn unig.

Y disgwyl, medd y Swyddfa Dywydd, yw y bydd yr eira ar ei drymaf yn Yr Alban cyn lledu i ogledd orllewin Lloegr a rhannau o Gymru.

Fe allai 2-5cm o eira ddisgyn mewn mannau am rai oriau.

Mae'r rhybudd yn weithredol gydol ddydd Mawrth, Mercher ac Iau ac fe allai'r tywydd gaeafol greu trafferthion ar y ffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd ar gyfer rhew ac eira ddydd Mawrth yn berthnasol i rannau helaeth o'r gogledd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai arwain at amodau gyrru anodd ac oedi ar y ffyrdd mewn mannau.

Gallai'r tywydd oer gael effaith hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyflenwadau trydan.

Yn ogystal, mae gofyn i bobl i fod yn ofalus - yn enwedig ar balmentydd, ffyrdd a llwybrau beic nad sydd wedi'u graeanu - oherwydd gall cawodydd gaeafol ddisgyn ar dir wedi rhewi ac arwain at rew llithrig.

Pynciau Cysylltiedig