Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ysgolion ar gau oherwydd amodau rhewllyd dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Caernarfon

Mae rhai ysgolion ar gau unwaith yn rhagor ddydd Gwener wrth i'r tywydd rhynllyd barhau.

Mae rhybudd melyn, dolen allanol am iâ mewn grym tan 10:00 ar draws gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd bod yna rai ardaloedd rhewllyd, a bod rhai ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin all fod yn beryglus gan achosi anafiadau oherwydd llithro a chwympo.

Roedd 65 o ysgolion ar gau ddydd Iau wedi i eira ddisgyn dros nos.

'Perygl mawr o ddamwain'

Dywedodd Cyngor Sir Benfro, dolen allanol fore Gwener fod 30 o ysgolion ar gau yn y sir, gyda phump arall wedi eu cau yn rhannol.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol y Fair Ddihalog, Hwlffordd bod "yr holl balmentydd cyhoeddus sy'n arwain at yr ysgol eisoes yn llithrig iawn, wedi'u gorchuddio ag eira a rhew".

"Gyda'r rhagolygon y bydd y tymheredd yn parhau o dan y rhewbwynt nes 10:00... rydym yn bryderus y bydd disgyblion, teuluoedd a staff mewn perygl mawr o gael damwain wrth ddod i'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Garnedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant Ysgol y Garnedd yn mwynhau'r eira ddydd Iau

Mae sawl ysgol yng Ngheredigion, dolen allanol hefyd wedi eu heffeithio gan y tywydd ddydd Gwener.

Dywedodd Ysgol Bro Teifi, yn Llandysul, Ceredigion, bod "amodau peryglus ar y campws gydag eira wedi rhewi yn galed ar y maes parcio a'r iard dros nos".

"Mae amodau teithio anodd i rai hefyd yn golygu bod lefelau staffio yn mynd i fod yn heriol iawn."

Yng Ngwynedd, dolen allanol hefyd, mae sawl ysgol ar gau yn cynnwys Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Tryfan oherwydd safleoedd "peryglus" a "ddiffyg staffio o ganlyniad i'r rhew".

Mae rhai ysgolion yn Sir Conwy, dolen allanol hefyd wedi eu cau, gan gynnwys Ysgol Bryn Elian.

Dywedodd Cyngor Sir Gâr, dolen allanol bod tair ysgol ar gau yn llwyr a thair ar gau yn rhannol oherwydd yr amodau anodd.

Pynciau Cysylltiedig