Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ap BBC Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd
Ap BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae ap newydd BBC Cymru Fyw yn gweithio ar dabledi a ffonau

Cliciwch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Apple, dolen allanol

Cliciwch i'w lawrlwytho i ddyfais Android, dolen allanol

Mae fersiwn newydd o ap BBC Cymru Fyw nawr ar gael. Mae'n addas ar gyfer ffonau a thabledi iPhone ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Dyma'r lle delfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.

Os oes gennych chi'r ap yn barod, peidiwch â phoeni, fydd dim angen i chi wneud dim - bydd yr ap yn diweddaru'n awtomatig. Os nad ydyw'n gwneud hynny, yna dilynwch y dolenni ar dop yr erthygl i lawrlwytho'r fersiwn newydd.

Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:

  • Prif Straeon - y prif straeon newyddion

  • Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy

  • Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru

  • Ardaloedd - y newyddion lleol o ranbarthau Cymru

  • Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru

Mae llif byw dyddiol Cymru Fyw hefyd ar gael ar yr ap (sef y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol). Gallwch ei ddilyn drwy dapio ar y stori 'YN FYW' yn yr adran Prif Straeon.

Gallwch hefyd gyfrannu, drwy anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at BBC Cymru Fyw. Gwnewch hyn drwy dapio ar y botwm 'Cysylltwch â ni' yn yr ap, neu drwy e-bostio [email protected].

Disgrifiad,

BBC Cymru Fyw

Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.