Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Llai o blant o ardaloedd tlawd yn gwneud chwaraeon'

  • Cyhoeddwyd
ChwaraeonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arolwg mewn ysgolion yn dangos fod y bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf breintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf.

Ond, mae hefyd yn dangos fod plant gydag anableddau neu sydd o gefndiroedd ethnig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn aml.

Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud y bydden nhw'n gweithio ar welliannau dros yr 18 mis nesaf.

Mae tua 120,000 o blant rhwng saith ac 16 oed, ac athrawon mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi cymryd rhan mewn ymchwil sy'n edrych ar weithgaredd chwaraeon, iechyd a lles.

Fe wnaeth yr ymchwil ddangos fod:

  • Plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dros dair gwaith yr wythnos wedi aros yr un peth ers 2015 - 48%;

  • Anghyfartaledd rhwng bechgyn a merched yn parhau;

  • Rheiny o ardaloedd difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon mwy na thair gwaith yr wythnos wedi gostwng i 42% o 43% yn 2015;

  • Gwahaniaeth ymwneud mewn gweithgareddau rhwng plant o ardaloedd mwya' tlawd a'r mwyaf cyfoethog wedi cynyddu 13%;

  • 40% o ddisgyblion o dras Brydeinig/Asiaidd - sydd fel arfer y grŵp ethnig sy'n cymryd rhan lleiaf - wedi dweud eu bod nhw'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn amlach;

  • 45% o ddisgyblion gydag anableddau neu amhariad wedi dweud eu bod nhw'n cymryd rhan yn amlach mewn gweithgareddau chwaraeon.

Mae chwaraeon Cymru wedi dweud y bydden nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff chwaraeon dros yr 18 mis nesaf er mwyn deall y rhesymau y tu ôl i'r cwymp.

Dywedodd pennaeth polisi a mewnwelediad Chwaraeon Cymru, Owen Hathway: "Mae'n galonogol gweld cynnydd mewn niferoedd."

Ychwanegodd fod llawer wedi'i gyflawni gan Chwaraeon Anabledd Cymru a BME Sport Cymru i weithio mwy gyda grwpiau o bobl leol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Powell fod yr arolwg yn bwysig er mwyn sicrhau perthynas disgyblion gyda chwaraeon

Er bod y gweithgarwch cyffredinol wedi parhau'n sefydlog ers yr arolwg diwethaf, mae'r mwynhad o chwaraeon o fewn a thu allan i ysgolion wedi gostwng.

Dywedodd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: "Heb hyn, does dim gobaith iddyn nhw [disgyblion] gael perthynas hir dymor positif gyda chwaraeon."

Daeth yr arolwg i gasgliad fod 99 munud yr wythnos ar gyfartaledd wedi'i neilltuo i addysg gorfforol mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae hyn yn is na'r 120 munud sy'n cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth 96% o'r disgyblion a holwyd ddweud y buasent nhw'n dymuno gwneud mwy o chwaraeon.

Ychwanegodd Ms Powell y byddai'n gweithio gydag ysgolion gan gynnwys edrych ar gyflwyno llai o chwaraeon traddodiadol yn y cwricwlwm.