Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cynllun esgidiau chwaraeon yn helpu plant difreintiedig

  • Cyhoeddwyd
BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun eiseos wedi casglu 100 o barau o esgidiau i deuluoedd mewn angen

Dywed dyn o Gastell-nedd ei fod wedi cael ei synnu gan haelioni pobl ar ôl iddo sefydlu ymgyrch i gasglu citiau pêl-droed ar gyfer teuluoedd llai breintiedig.

Gobaith Carl Bradley, o Gimla, yw y bydd y cynllun hefyd yn rhoi cyfle i fwy o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dechreuodd y syniad dair wythnos yn ôl ar y gwefannau cymdeithasol ac mae eisoes wedi cael cefnogaeth 1,300 o bobl ar-lein a chasglu dros 100 o esgidiau pêl-droed a rygbi.

Ac ar ôl derbyn cefnogaeth clwb pêl-droed Abertawe fe fydd cynllun The Boot Room yn cael lansiad swyddogol yn Stadiwm Liberty ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carl Bradley ei fod yn "ffordd ymarferol o helpu"

Dywedodd Mr Bradley: "Fe wnes i benderfynu sefydlu'r cynllun wrth wylio fy mab yn chwarae pêl-droed.

"Fe glywais i un o'r rhieni yn dweud nad oedd hi'n siŵr a fyddai ei phlentyn yn ôl y tymor nesa', gan nad oedd hi'n gallu fforddio'r gost o brynu esgidiau newydd.

"A wnes i drio meddwl am ffordd ymarferol o helpu," meddai.

"Fy nod yw helpu gymaint o blant â phosib, boed hynny mewn pêl-droed neu rygbi.

"Bydd y lansiad yn y Liberty hefyd yn gyfle i ddweud diolch wrth bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ethan (chwith), sydd i'w weld yma gyda'i deulu, wedi cael pâr o esgidiau pêl-droed newydd trwy'r cynllun

Mab chwech oed Michelle Eaton o Nantgaredig, Ethan, yw un o'r rhai sydd eisoes wedi elwa o'r cynllun.

Bu'n rhaid i'w phartner, David roi'r gorau i weithio ar ôl cael trawiad, ac mae hynny wedi rhoi straen ariannol ar y teulu.

Dywedodd Ms Eaton: "Fel arfer, byddwn i ddim yn meddwl dwywaith am brynu pâr newydd o esgidiau i Ethan, ond gyda'r pâr diwetha' wedi costio £55, dyw e' ddim yn rhywbeth y gallwn ni fforddio ar hyn o bryd.

"Mae cynllun Carl yn ffantastig, a byddwn ni hefyd yn rhoi'r esgidiau maes o law i rywun arall."