Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Seremoni gloi Gemau'r Ynysoedd 2019 yn Gibraltar
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni gloi Gemau'r Ynysoedd 2019 yn Gibraltar

Mae Ynys Môn wedi sicrhau'r hawl i gynnal Gemau'r Ynysoedd - cam sydd wedi ei ddisgrifio'n "foment hanesyddol" i'r sir.

Bydd 4,000 o athletwyr yn cynrychioli 24 o ynysoedd yn cystadlu ym Môn wedi pleidlais ymhlith aelodau'r corff rhyngwladol sy'n trefnu'r gystadleuaeth.

Roedd Môn wedi ymgeisio i groesawu'r gemau, sy'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, yn 2025.

Ond mae'n bosib y bydd angen newid y dyddiadau, petai'n angen aildrefnu Gemau 2021 yn Guernsey oherwydd y pandemig.

Beth yw Gemau'r Ynysoedd?

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor oedd yn gyfrifol am y cais, Gareth Parry: "Ein nod rŵan yw sicrhau fod y gemau'n trawsnewid ein darpariaeth hamdden ar yr ynys rŵan ac yn y dyfodol, yn ogystal â hwb sydd mawr ei angen ar y sector twristiaeth.

"Mae'r gwaith caled yn dechrau rŵan i wneud yn siŵr bod y digwyddiad yn llwyddiant digynsail, sy'n gadael gwaddol i'n pobl ifanc yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Ynys Mon Island Games Association
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gynrychiolwyr Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd 2019

Methodd ymgais Ynys Môn i lwyfannu'r gemau yn 2009, pan gawson nhw eu cynnal yn Åland, yn Y Ffindir.

Ond mae'r ynys wedi llwyfannu cystadleuaeth gymnasteg Gemau'r Ynysoedd yn 2015 a'r gystadleuaeth pêl-droed yn 2019.

"Mae hyn yn newyddion gwych i Ynys Môn a bydd unwaith eto'n help i roi ein hynys ni unwaith eto ar fap y byd," meddai arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi.

Mae Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iowerth, hefyd wedi croesawu'r cyfle "i ddod ag un o ddigwyddiadau aml-gamp mwyaf y byd i'r ynys am y tro cyntaf erioed".