Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Dr Kim Harrison: Teyrnged teulu i feddyg a dyn 'eithriadol'

  • Cyhoeddwyd
Dr Kim HarrisonFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Kim Harrison wedi ymddeol yn ddiweddar ac yn mwynhau "pleserau syml bywyd", medd ei deulu

Mae teulu dyn 68 oed fu farw ar ôl ymosodiad difrifol honedig fis diwethaf wedi talu teyrnged i "ddyn eithriadol" a meddyg "uchel ei barch".

Bu farw Dr Kim Harrison yn yr ysbyty ar 9 Ebrill, bron i fis ar ôl iddo gael ei ganfod ag anafiadau difrifol yng Nghlydach, ger Abertawe.

Mae Heddlu De Cymru bellach yn trin y digwyddiad fel llofruddiaeth.

Mae Daniel Harrison, dyn 37 oed a gyhuddwyd yn flaenorol o geisio llofruddio, yn parhau yn y ddalfa.

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Dr Harrison ei fod wedi marw yn dilyn "anaf i'r pen".

'Arbenigwr rhyngwladol'

"Roedd Kim yn ŵr, yn dad, yn dad-cu, yn frawd ac yn ffrind cariadus - yn ddyn hynod amyneddgar, gwylaidd a gonest," meddai'r deyrnged.

"Roedd Kim yn feddyg adnabyddus ac uchel ei barch a ymdrechodd i sicrhau bod ei gleifion bob amser yn cael cynnig y gofal gorau.

"Ar ôl hyfforddi yn Ysbyty Brenhinol Brompton, Llundain, bu'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr i sefydlu'r Uned Anadlol yn Ysbyty Treforys a daeth yn arbenigwr rhyngwladol mewn ffibrosis yr ysgyfaint.

"Roedd Kim yn athro brwdfrydig ac yn dysgu llawer o feddygon y dyfodol yn Ysgolion Meddygol Caerdydd ac Abertawe.

"Roedd Kim wedi ymddeol yn ddiweddar ac roedd yn mwynhau pleserau syml bywyd - coginio, garddio, cerddoriaeth ac ymchwilio i hanes ei deulu. Roedd wrth ei fodd gyda'i deulu a'i ffrindiau, ac roedd yn hynod falch o'i bedwar mab a'i wyres fach.

"Tra ein bod yn galaru'n fawr am golli dyn eithriadol, dymunwn ddathlu ei fywyd llawn a hapus. Ni fydd ei gyflawniadau parhaol a'n hatgofion gwerthfawr ohono yn cael eu hanghofio.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gofal rhagorol a gafodd Kim gan weithwyr proffesiynol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, a chefnogaeth wych teulu a ffrindiau."