Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Y Cae Ras yn ôl yn nwylo Clwb Pêl-Droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cadarnhau fod stadiwm y Cae Ras bellach yn ôl yn nwylo Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Prifysgol Glyndŵr sydd wedi bod yn berchen ar y tir ers 2011, yn ystod cyfnod pan fu cryn ansicrwydd am ddyfodol y clwb.

Mae gan y clwb berthynas dda gyda'r brifysgol, a'r clwb sydd eisoes yn gyfrifol am reoli'r stadiwm wedi iddo arwyddo les 99 mlynedd yn 2016.

Ers hynny mae'r dyfodol yn edrych yn fwy diogel fyth, gyda'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney bellach yn berchnogion.

Yn gynharach eleni, dywedodd y ddau y byddai cael bod yn berchen ar y Cae Ras yn eu rhoi "â rheolaeth dros ein tynged ein hunan".

Gan gadarnhau'r trosglwyddiad ddydd Mercher, dywedodd Prifysgol Glyndŵr mai dyma oedd yr amser iawn i drosglwyddo perchnogaeth y tir.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion ar y clwb ym mis Chwefror 2021

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Prifysgol Glyndŵr, David Elcock, ei bod hi wedi bod yn "anrhydedd mawr i ni fod yn geidwaid y stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd".

Ychwanegodd fod y pryniant yn "hanfodol i helpu i gadw'r clwb pêl-droed yn fyw yn ystod haf lle cododd y cefnogwyr dros £100,000 mewn diwrnod dim ond i gadw'r clwb mewn bodolaeth".

Pwysleisiodd arolwg ym mis Tachwedd 2021 fod nifer yn awyddus i weld y stadiwm o dan reolaeth y clwb pêl-droed.

"Dros 10 mlynedd yn ddiweddarach mae'n bryd i ni drosglwyddo'r stadiwm yn ôl i'r clwb o dan ei berchnogaeth newydd fel y gallant fwrw ymlaen â'r datblygiadau a'r gwelliannau cyffrous y maent wedi'u cynllunio," meddai Mr Elcock.