Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cwpan y Byd: Galw am greu ardaloedd i gefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd un o bobl Caernarfon: "'Di pawb ddim yn gallu ffitio mewn un tafarn!"

Gydag ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn cychwyn mewn 100 niwrnod yn Qatar, mae cefnogwyr yn galw am greu ardaloedd arbennig yng Nghymru er mwyn gwylio gemau'r tîm cenedlaethol.

Mi fydd Cymru'n cystadlu am y tro cyntaf ers 64 mlynedd pan fydd Qatar yn cynnal y bencampwriaeth yn yr Hydref, gan wynebu'r Unol Daleithiau ar 21 Tachwedd ac yna Iran a Lloegr.

Mae'r gost o deithio i'r Dwyrain Canol yn un o'r rhesymau dros y galwadau am sefydlu fanzones i'r rheiny sy'n dewis peidio â theithio.

Mae eraill wedi beirniadu'r penderfyniad i gynnal y gystadleuaeth yn Qatar oherwydd pryderon am record hawliau dynol y wlad a'r ffaith fod bod yn hoyw yn anghyfreithlon yno.

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn Abertawe gwylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr, yn nghystadleuaeth Euro 2016. Bydd y ddau dim yn wynebu ei gilydd eto yn Qatar

Mae Mark Jones wedi creu deiseb ar-lein yn galw am sefydlu fanzones ar draws y wlad.

"Mae Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau a chyngherddau mawr yma'n ddiweddar felly does dim esgus dros beidio â chael fanzone," meddai.

Pan fu Cymru'n chwarae yn yr Euros yn Ffrainc yn 2016 fe gafodd Mark syniad i greu ardaloedd cefnogwyr, ac anfonodd ebost am ei syniad at dros 200 o gysylltiadau.

Ymateb 'fel corwynt'

Y bore canlynol roedd 150 o bobl gan gynnwys cynghorau sir wedi ymateb eisiau trafod y peth.

"Roedd o fel corwynt ond oedd mis a hanner gen i i'w sefydlu nhw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid achub ar y cyfle i gefnogi, meddai Mark Jones

Gan fod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd mae Mark yn benderfynol o wneud yr un peth eto.

"Yn 2016 fe wnaeth 60,000 o bobl fynd a defnyddio'r fanzone felly does 'na ddim esgus dros peidio'u cael nhw eto," meddai.

Fe fydd teithio i Qatar yn ddrud gyda thocynnau awyren, gwestai, tocynnau ar gyfer y gemau a bwyd yn costio tua £5,000.

Mae 'na gyfyngiadau ar faint o docynnau sydd ar gael i gefnogwyr Cymru hefyd, gyda rhyw 2,500 ar gael mewn stadiwm sy'n dal 50,000.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o gefnogwyr i wylio gemau Cymru mewn Fanzones fel hwn yng Nghaerdydd adeg yr Euros yn 2016

"Mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle i gefnogi'r tîm," meddai Mark Jones.

"Dyma'r cyfle i werthu Cymru i'r byd ac mae'n bosib na chawn ni gyfle fel hyn eto."

Wrecsam ar y blaen

Cyngor Sir Wrecsam yw'r unig awdurdod i gadarnhau y bydd ganddyn nhw ddwy ardal cefnogwyr ar gyfer Cwpan y Byd - un ar y Stryd Fawr a'r llall yn Tŷ Pawb.

"Rydym wedi dechrau cynllunio'r fanzones," meddai'r Cynghorydd Nigel Williams, aelod y cabinet dros yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Wrecsam.

"Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda phêl-droed gyda sefydlu'r FAW yma yn y Wynnstay Arms yn 1876 ac rwy'n gwybod y bydd pawb eisiau dangos eu cefnogaeth i'n tîm cenedlaethol," meddai.

Mae BBC Cymru yn deall bod trafodaethau wedi'u cynnal ynglŷn â'r bwriad o gael fanzone ar y Maes yng Nghaernarfon.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae trafodaethau wedi eu cynnal dros greu ardal i gefnogwyr yng Nghaernarfon

Mae cynghorau sir Abertawe a Chonwy wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cael rhai hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: "Rydym yn trafod posibilrwydd cael fanzone ar gyfer Cwpan y Byd, ond does dim penderfyniad eto."

A dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod yn "ystyried yr holl opsiynau ac wir eisiau gweld cefnogwyr y tu ôl i Gymru yng Nghwpan y Byd," gan ychwanegu y bydd y tywydd "yn un o'r pethau pwysicaf i'w hystyried."

Dywedodd pedwar cyngor - Caerdydd, Ceredigion, Penfro a Phowys - nad oedden nhw wedi cynnal trafod y mater hyd yma.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cyngor Merthyr Tudful na fydd fanzone yno.

Nid yw'r cynghorau eraill wedi ymateb eto i gais gan BBC Cymru.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.