Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Yr Athro Alan Shore yn derbyn y Fedal Wyddoniaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Alan Shore
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Athro Alan Shore ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ddydd Gwener

Yr Athro Alan Shore sydd wedi derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae'r ei derbyn am ei "gyfraniad hyd-oes i electroneg digidol a'r newidiadau pellgyrhaeddol ym myd cyfrifiaduraeth a chyfathrebu".

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar faes yr Eisteddfod ym Moduan brynhawn Gwener.

O Dredegar Newydd yng Nghwm Rhymni y daw yr Athro Shore.

Graddiodd mewn Mathemateg o Goleg Iesu, Prifysgol Rhydychen ac yn ddiweddarach gyda Doethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd ym maes Ffotoneg.

Roedd y cyfnod tra'n fyfyriwr yng Nghaerdydd hefyd yn arwyddocaol gan iddo ddechrau dysgu Cymraeg.

Bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Lerpwl a Chaerfaddon a threulio cyfnodau yn ymchwil mewn labordai ledled y byd.

Yn 1995 dychwelodd i Gymru i weithio fel Athro mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor lle bu'n datblygu ei waith ar Ffotoneg ac Optoelectroneg.

Mae hefyd wedi bod yn ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn weithgar gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.