Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ryff geid i gysylltiadau llên Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
(clocwedd o top, chwith) Caryl Lewis, Cranogwen, Eurig Salisbury, Waldo WilliamsFfynhonnell y llun, BBC/Casgliad y Werin/Cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

(clocwedd o top, chwith) Caryl Lewis, Cranogwen, Eurig Salisbury, Waldo Williams - i gyd efo cysylltiad efo Aberystwyth neu Ceredigion

Wrth i Aberystwyth a Cheredigion ddechrau ymgyrch i ennill statws Dinas Llên UNESCO, Cymru Fyw sy'n edrych ar rai o'r elfennau sy'n siwr o gryfhau eu cais.

Lleisiau'r gorffennol

Mae gan ardal Ceredigion ei siâr o lenorion Cymraeg, a dim syndod o ystyried bod cymaint wedi astudio neu ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae sawl lle yn gallu hawlio cysylltiad efo T.H. Parry-Williams; Rhyd-ddu, Rhydychen, Freiburg, Paris - ond fe dreuliodd rhan fawr o'i fywyd yn Aberystwyth. Roedd y bardd yno fel myfyriwr cyn gweithio yn yr adran Gymraeg rhwng 1919 ac 1952.

Yn debyg i Parry-Williams, roedd Gwenallt yn heddychwr ac aeth i astudio Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1919. Ar ôl cyfnod o ddysgu mewn ysgol yn Y Bari, aeth nôi Aberystwyth i'r adran Gymraeg fel academydd rhwng 1927-1966.

Mae bedd Gwenallt yn y dref ac mae plac coffa iddo ar ei gartref ym Mhenparcau.

Enwau eraill adnabyddus o'r byd llenyddiaeth Cymraeg sydd efo cysylltiad gydag Aberystwyth ydi: y bardd Prosser Rhys - wnaeth sefydlu Gwasg Aberystwyth yn 1928, Waldo Williams - wnaeth raddio mewn Saesneg yno yn 1926, T. Gwynn Jones - fu'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac adran Gymraeg y Brifysgol, y bardd a'r sosialydd T.E. Nicholas neu Niclas y Glais - fu'n weinidog yng Ngheredigion cyn symud i weithio fel deintydd yn Aberystwyth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, yn arloeswr mewn sawl maes

Tu hwnt i Aber, mae 'na enwau mawr hefyd. Yng Ngheredigion magwyd y llongwr a'r bardd Cranogwen. Hi oedd y ddynes gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol - a hynny yn Aberystwyth yn 1865.

Ffynhonnell y llun, Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion, lle claddwyd Dafydd ap Gwilym yn ôl y sôn

A Dafydd ap Gwilym? Un o Geredigion. Yn ôl traddodiad fe gafodd y bardd - un o'r pwysicaf ar draws Ewrop yn y Canol Oesoedd - ei gladdu yn Nhalyllychau neu Ystrad Fflur.

Archdderwyddon

Mae sawl Archdderwydd efo cysylltiad gydag Aber - gan yr unig ddwy ddynes i ddal y swydd.

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth Christine James oedd y fenyw gyntaf i fod yn Archdderwydd, rhwng 2013-2016.

Yr ail, fydd y person sy'n dal y swydd am y tair blynedd nesaf - Mererid Hopwood. Ac mae hi'n gweithio....ie, yn adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Llenyddiaeth gyfoes

Nid Mererid Hopwood ydi'r unig brifardd efo cysylltiad cryf efo Aberystwyth a Cheredigion.

Mae rhai o'r beirdd ddaeth i'r amlwg yn yr 1980au a'r 1990au wrth boblogeiddio barddoniaeth drwy berfformio eu cerddi yn gyn-fyfyrwyr y Coleg ger y Lli - Twm Morys, Myrddin ap Dafydd a'r diweddar Iwan Llwyd. Felly hefyd y prifardd Ceri Wyn Jones, Meuryn rhaglen Y Talwrn, sydd hefyd yn frodor o Aberteifi, yng Ngheredigion.

Mae cefn gwlad a thirwedd Ceredigion yn amlwg yng ngwaith yr awdur Caryl Lewis, er enghraifft Martha, Jac a Sianco. Mae'r awdur, sy'n gyn-fyfyriwr Aberystwyth ac yn dal i fyw yng Ngheredigion, hefyd wedi sgriptio'r gyfres deledu Gwyll.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Caryl Lewis deitl Llyfr y Flwyddyn am yr eildro yn 2016 am ei nofel Y Bwthyn, wedi iddi ennill yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco

Dwy lyfrgellwraig ac ymchwilydd academaidd fel prif gymeriadau a'r Llyfrgell Genedlaethol yn ganolbwynt i'r cyfan - mae Aberystwyth yn amlwg iawn yn nofel Fflur Dafydd Y Llyfrgell, sydd bellach hefyd yn ffilm a chyfres deledu. Astudio Saesneg yn y Brifysgol wnaeth yr awdur, a bu'n dysgu sgriptio yno yn ddiweddarach hefyd.

Tref glan môr Aberdyddgu ydi enw lleoliad Dan Gadarn Goncrit, sy'n waith gosod Lefel A, ond Aberystwyth ydi'r ysbrydoliaeth. Mihangel Morgan, un o brif nofelwyr modern Cymraeg, ydi'r awdur - fu'n darlithio yn adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am flynyddoedd.

Bardd y dref

Does 'na'm llawer o drefi efo bardd swyddogol - ond mae gan Aberystwyth un.

Llynedd fe wnaeth Cyngor Tref Aberystwyth benderfynu creu swydd 'Bardd y Dref' er mwyn dathlu digwyddiadau'r dref.

Bydd y bardd yn newid bob blwyddyn. Eurig Salisbury sy'n dal y teitl ar hyn o bryd - ei hun yn ddarlithydd yn adran Gymraeg y Brifysgol ac yn gyn-fyfyriwr yno hefyd.

Y Llyfrgell Gen

Gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a chartref Archif Lenyddol Cymru ymysg pethau eraill, mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn siwr o gryfhau unrhyw gais.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y llyfrgell, sy'n rhan o'r ymgyrch Dinas Llên, yr hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon

Wedi ei sefydlu yn 1907 - ar ôl ymgyrch 30 mlynedd - mae'r adeilad urddasol ar Ffordd Penglais, sy'n edrych dros dref Aberystwyth, hefyd yn gartref i nifer o lawysgrifau pwysig, fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin.

Hyrwyddo a chyhoeddi

Diolch i'w murlun anferth, mae'n anodd teithio o'r gogledd i Aberystwyth ar hyd yr A487 heb sylwi ar wasg Y Lolfa, gafodd ei sefydlu yn yr 1960au yn Nhalybont. Mae Gwasg Gomer hefyd yng Ngheredigion.

Yn Aberystwyth mae Cyngor Llyfrau Cymru ac mae digon o ddigwyddiadau llenyddol yn cael eu cynnal drwy'r flwyddyn - fel Gŵyl Crime Cymru - sy'n dathlu llenyddiaeth trosedd, noson barddoniaeth Cicio'r Bar, a gŵyl barddoniaeth flynyddol sy'n cael ei drefnu gan siop annibynol Bookshop by the Sea. Mae cynlluniau ar droed hefyd i ddechrau Gŵyl Llên newydd eleni.

Digon i'w drafod wrth geisio am statws UNESCO felly...

Pynciau Cysylltiedig