Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Hanner canrif o wirfoddoli gyda thîm chwilio ac achub Aberdyfi

  • Cyhoeddwyd
Dave WilliamsFfynhonnell y llun, SOS EXTREME RESCUES
Disgrifiad o’r llun,

Dave Williams

Ymunodd Dave Williams o Lanberis â thîm chwilio ac achub Aberdyfi yn 1974, pan symudodd i fyw i Dywyn yn ddyn ifanc 25 oed.

Hanner canrif yn ddiweddarach mae'n dal i achub bywydau, yn gadeirydd ar y tîm ers dros ddeugain o flynyddoedd ac mae wedi cael ei alw allan dros fil o weithiau.

Mae Dave yn ymddangos yn y gyfres deledu SOS: Extreme Rescues sydd ar BBC iPlayer ar hyn o bryd.

Gyda degawdau o brofiad ac o wasanaethu de Eryri a'r canolbarth, "y rheswm dwi 'di aros efo'r tîm mor hir ydy'r bobl dwi'n cydweithio efo nhw - y plesar mae hynna yn ei roi i chdi," meddai.

Cefnogaeth teulu a chyflogwyr

Pan ymunodd Dave â'r tim yn 1974, roedd yn gweithio i The Outer Bound Trust yn Aberdyfi, â'i waith yn cynnwys cynnal gweithgareddau awyr agored i blant a phobl ifanc.

Roedd tîm chwilio ac achub Aberdyfi yn llai na chwe mis oed ar y pryd, a'r tîm yn ddibynnol ar staff The Outer Bound Trust fel gwirfoddolwyr oherwydd eu bod yn fynyddwyr profiadol.

Ffynhonnell y llun, SOS EXTREME RESCUES
Disgrifiad o’r llun,

Dave yn ei ddyddiau cynnar o wirfoddoli gyda'r tîm

Ar ôl rhai blynyddoedd symudodd swydd a daeth yn warden i Barc Cenedlaethol Eryri gan barhau i wirfoddoli ar ben bod yn ŵr ac yn dad i ddau o blant ifanc.

"Fel unigolyn, ti'n ymuno â'r tîm ac isio roi rwbath yn ôl i'r gymuned leol ella… wrth gwrs mae hynna yn mynd i effeithio wedyn ar y bobl sy'n cyflogi chdi a hefyd ar y teulu wrth gwrs achos ti'n cael dy alw allan ac yn diflannu.

"Mae'r system i gyd yn dibynnu gymaint ar gyflogwyr a teuluoedd y bobl sy'n creu'r timau - heb y gefnogaeth yna fysa'r system yna ddim yn gweithio o gwbl, dyna'r peth pwysicaf i gofio," pwysleisiai Dave.

Dros 50 o alwadau y flwyddyn

Yn y gyfres SOS: Extreme Rescues mae Dave i'w weld yn rhan o'r tîm sy'n cynorthwyo person maen nhw'n amau o fod wedi colli ei ffordd dan ddylanwad madarch hud ar Gader Idris, ac yn helpu merch yn ei harddegau sydd wedi anafu ei ffêr tra'n cerdded yr un mynydd.

"Y lle prysura' i ni ydy Cader Idris, does 'na ddim dwywaith am hynny, mae o fel pot mêl," meddai Dave.

"Ond mae 'na lot o lefydd wedyn lle mae pobl yn mynd i gerddad islawr, llefydd fel Rhaeadr Dolgoch; cerddad i fyny a chael damwain a mae'n reit anodd i gael nhw allan o fan'na.

"Yn ardal ni mae gynnon ni Yr Aran ac i'r de mae gynnon ni Pumlumon, mae o'n batsh go fawr i ddweud y gwir."

Ffynhonnell y llun, SOS EXTREME RESCUES
Disgrifiad o’r llun,

Ei gyd-wirfoddolwyr yn cludo rhywun i lawr o'r mynydd

Y flwyddyn ddiwethaf cafodd y tîm ei alw allan 54 o weithiau ac yn ôl Dave, mae'r sefyllfaoedd yn wahanol i beth oedden nhw hanner canrif yn ôl.

"Dyddiau yma mae gweithgareddau newydd yn creu problemau newydd… pethau fel beicio mynydd… doedd 'na ddim hynny 50 mlynedd yn ôl. Yn y ddeugain mlynedd dwytha mae hwnna wedi tyfu yn fawr ofnadwy a 'da ni'n cael amryw o alwadau i goedwigoedd lle mae'r traciau beicio.

"Ti byth yn gwybod be' fydd yr alwad a dweud y gwir. Yn gyffredinol, pobl ar y mynydd sydd wedi cael damwain ond 'dan ni'n 'neud lot efo'r gymuned leol.

"Pan ti'n meddwl am faint o bobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad yn yr ardal yma, os ydyn nhw'n cael damwain mewn lle sydd ddim yn hawdd i fynd ato fo, wel ni sy'n helpu allan efo'r ambiwlans a phawb arall."

Dyddiau cyn ffonau symudol

Ac yntau'n 74 mlwydd oed erbyn hyn, defnyddio ei brofiad a rhoi arweiniad i'w gyd-wirfoddolwyr o'r fan reoli fydd Dave yn ei wneud ar lawer o alwadau heddiw a gadael i'r rhai "fengach a fwy ffit" fynd allan.

Ffynhonnell y llun, TIM CHWILIO AC ACHUB ABERDYFI
Disgrifiad o’r llun,

Dave Williams yn yr 1970au

O wylio Dave yn astudio'r mapiau ar y cyfrifiadur a chyfathrebu gyda'r gwirfoddolwyr dros y radio o'r fan reoli ar SOS: Extreme Rescues, mae'n anodd dychmygu sut oedd pethau yn 1974.

"Doedd 'na ddim GPS na mobiles, dim byd fel'na o gwbl," eglura. "Yr unig beth oedd hefo chi oedd y wybodaeth gan y person oedd wedi reportio bod rhywun heb ddod lawr o'r mynydd neu be' bynnag, a pha daith oeddan nhw'n meddwl 'neud.

Ffynhonnell y llun, SOS EXTREME RESCUES
Disgrifiad o’r llun,

Dave yn y fan reoli

"Dwi'n cofio criw yn cerddad i fyny Cader Idris pan oedd y tywydd ddim mor dda, cawodydd o eira yn dod i mewn ac aethon nhw fyny i'r copa cyn dechrau i lawr. Oeddan nhw am gampio i lawr yn y dyffryn ochr Tal-y-llyn a wnaethon nhw ddim troi fyny.

"Yn y diwadd gafon ni negas yn dweud fod y parti yma ar goll ac oedd 'na wyth o blant a dau o athrawon hefo nhw, a wedyn allan dros nos mewn cawodydd o eira trwm, gwynt ofnadwy a jest cyn i'r gola' dydd dorri drwodd mi wnaethon ni ffeindio nhw.

Ffynhonnell y llun, SOS Extreme Rescues
Disgrifiad o’r llun,

Cyfathrebu gyda'r gwirfoddolwyr sydd allan dros y radio

"Oedd y gwynt mor hurt oeddan nhw wedi mynd lawr dwtsh i gael bach o gysgod a wedi mynd i gampio yn fan'no, ond wrth gwrs, ddim ar y llwybr lle oedd pawb yn cerddad. Oherwydd y tywydd oedd hi'n anodd ffeindio nhw ond oedd pawb yn iawn.

"Pan ti'n gallu siarad efo rhywun ti'n gallu deall yn iawn be' ydi'r trafferthion maen nhw mewn. Ond cer yn ôl cyn mobile phones, doedd gen ti'm cliw, dim ond y ffaith bod 'na wyth o blant a dau athro ar goll."

Digwyddiad sy'n aros yn y cof?

"Yn y diwadd mae pob un yn bwysig i'r person sydd wedi cael ei frifo. I dynnu un neu ddau allan mae o reit anodd ond mae 'na ambell un sy'n sticio yn y meddwl.

"Mae 'na raeadr uwchben Dinas Mawddwy ac os ydy hwnna yn rhewi mae gen ti rew o uchder o rhyw 500 troedfedd. Dwi'n cofio bachgen yn mynd i ddringo arno fo ar ben ei hun, cael practis oedd o ond aeth o rhy uchel i fyny.

Ffynhonnell y llun, TIM CHWILIO AC ACHUB ABERDYFI
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o wirfoddolwyr tîm chwilio ac achub Aberdyfi yn yr 1970au

"Oedd o hanner ffordd i fyny pan wnaeth o benderfynu fod o methu mynd i fyny na lawr ac oedd yna uffach o storm yn dod i mewn - gwynt o'r dwyrain, eira trwm a gafon ni andros o job ei gael o'na.

"Oedd rhaid rhoi rhywun i lawr y rhaeadr dros 200 troedfedd a thynnu'r ddau i fyny wedyn, gymerodd o noson gyfan a mi oedd o'n frawychus. Gafodd y tîm fedal efydd gan y Royal Humane Society am y job yna."

'Meddyliwch a pharatowch'

Dros y degawdau mae Dave wedi cael ei alw i helpu nifer o bobl sydd wedi mynd i drafferth heb offer na dillad addas, ond nid yw byth yn eu beirniadu.

"Yng nghefn fy meddwl weithia' dwi'n meddwl, 'wel sut wnaeth y person wneud y penderfyniad yna?' ond dydi o'm yn helpu o gwbl.

"Pan 'da ni'n troi fyny mae pobl yn teimlo reit euog bo' ni wedi cael ein galw allan felly i ddeud petha hurt wrthyn nhw, dydi o ddim help. Y peth pwysica' ydy eu cael nhw o'na yn saff ac i lawr i'r gwaleod."

Ffynhonnell y llun, SOS EXTREME RESCUES
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'i gyd-wirfoddolwyr yn helpu'r cyhoedd

Ei gyngor i unrhyw un sydd am fynydda ydy "i feddwl am be' 'dach chi'n 'neud cyn dechra.

"Ewch â thorts pen, map a chwmpawd bob tro a pheidiwch dibynnu ar eich ffôn. Heb fatri, dydi'r ffôn werth ddim byd."

'Gwaith gwerth ei wneud'

Ers hanner canrif, dyw Dave ddim yn gwybod o un diwrnod i'r llall pwy fydd angen ei gymorth nesaf nac yn lle, ond mae'n sicr o un peth:

"Tra mae'r iechyd hefo fi, fyddai'n hapus i 'neud y gwaith. Fydd 'na amser pan fydd y tîm yn pacio fi ffwrdd i rhyw gornal ac yn deud, 'cer i ista yn fa'na a bydd ddistaw wnei di'," chwarddai.

"Mae o'n waith gwerth ei wneud."

Hefyd o ddiddordeb: