Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ateb y Galw: Rhiain Bebb

  • Cyhoeddwyd
Rhiain BebbFfynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Rhiain Bebb

Y cerddor gwerin o Fachynlleth, Rhiain Bebb, sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos hon.

Mae Rhiain yn gyn-diwtor Cymraeg, yn gerddor gwerin a chyfeilydd i ddawnsio gwerin ac mae wedi cyfansoddi llawer o alawon dawns yn y dull traddodiadol gan gyhoeddi dau lyfr ohonynt. Mae wedi chwarae gyda'r grwpiau Rhes Ganol a Dy Werin, ac mae hi'n un o sylfaenwyr a hwylusydd Cymdeithas y Delyn Deires.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mi ges fy magu ar fferm Llwyn Dol Ithel yn Nhal-y-llyn yng nghysgod Cader Idris, a phan oeddwn yn mynd ar y bws i Ddolgellau gyda fy Mam un diwrnod mi droiodd y ddynes tu blaen i ni atom a gofyn 'would your little girl like piano lessons?'a dyma fy Mam yn ateb yn ei Saesneg gore 'well yes, but she's only four'. 'That's fine' meddai'r wraig, 'she can start when she's five'. A dyna sut y bu i mi fynd ar y bws ar ben fy hun i Ddolgellau bob dydd Sadwrn yn bump oed (lwcus fod y gyrrwyr yn fy nabod ac yn edrych ar fy ôl), ac er fod gen i ddim Saesneg a Mrs Montague ddim Cymraeg roeddem rywsut yn deall ein gilydd i'r dim!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Er i mi gael fy ngeni yn Llanbrynmair ynghanol mwynder Maldwyn, byddai'n rhaid i mi ddweud Tal-y-llyn a Llyn Mwyngil ym Meirionnydd (ond nid ar ddiwrnod pan fydd yr awyrennau swnllyd, erchyll 'na'n gwibio lawr y cwm). Mae'r cwm a'r llyn yn newid eu lliw yn hyfryd gyda'r tymhorau.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi bod mewn llawer o nosweithiau cymdeithasol bywiog ac ymysg rhai o'r goreuon mae nosweithiau dathlu'r Fari Lwyd yn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau'r Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cymwynasgar, ymarferol, cymdeithasol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu?

Dwi wedi bod yn ofnadwy o lwcus i gael teithio'r byd yn cyfeilio i dimau dawnsio gwerin Cymru, ac efo atgofion lu o ddigwyddiadau doniol. Un ohonynt efo Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn Tokyo. Penderfynodd un o'r criw y byddai'n beth da i sbriwsio ei wisg mewn lle 'glanhawyr sych'. Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi paratoi am y canlyniad!!

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y lle 'glanhawyr sych' yn Tokyo

Beth oedd y digwyddiad wnaeth godi mwya o gywilydd arnat ti?

Ddim cymaint o godi cywilydd ond codi ofn! Yn Eisteddfod Llanrwst, ar y nos Sul (yn hollol sobor, wir!) mi faglais wrth groesi'r ffordd i'r maes carafannau a glanio yn fflat ar fy wyneb yng nghanol y ffordd yn methu â symud. Dwi'n cofio gorwedd yno'n meddwl "gobeithio na ddaw 'na fws yn fuan" tra roedd fy mhartner yn gweiddi "stopiwch y traffig"! Treuliais weddill y nos yn mynd i Ysbyty Bodelwyddan a wedyn i Fangor. Roeddwn wedi cracio asgwrn yn fy mraich. Bu'n Eisteddfod dawel!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tra'n gwylio'r rhaglen ddirdynnol Mr Bates vs The Post Office.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes llawer, yr un dwi'n cofio rŵan, ac yn fodlon cyfaddef iddo - anghofio rhoi digwyddiadau yn fy nyddiadur, a chofio pan fyddant wedi bod!

Beth yw dy hoff lyfr? Pam?

Does gen i ddim hoff lyfr, ond dwi wrth fy modd yn pori drwy hen gyfrolau o alawon telyn. Mae'n debyg mai'r enwocaf yw Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards. Mae cyfoeth o hanes ynddo, o gerddoriaeth a chefndir offerynnau i hanes beirdd a barddoniaeth. Byddwn yn dathlu dau ganmlwyddiant marw Edward Jones yn Ebrill eleni.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb

Byw neu farw, gyda pwy fyddet ti'n cael diod?

Fy niweddar ewythr Lynn Rees, oedd yn byw ym Mryncrug ar ei ben ei hun wedi iddo golli ei wraig. Roedd yn dilyn yn llinach y teulu o grefftwyr gwlad. Bu farw yn 93 oed, yn dal yn brysur yn ei weithdy yn gwneud ffyn a phob math o geriach pren. Roeddwn yn galw heibio bob wythnos ac yn sgwrsio am bob math o bethau. Roedd ei gof yn anhygoel. Doedd o ddim yn credu fod 'na siop wedi gwneud wy Pasg yn arbennig iddo fo!! Mae 'na gymaint dwi wedi anghofio ei ofyn. Te fyddai'r ddiod!

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Lyn Rees gyda'i wy Pasg arbennig

Rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod?

Dwi ddim yn gallu nofio. Pan oeddwn yn fach ar y fferm roeddwn yn gallu crwydro i bobman ond yn cael fy siarsio i beidio mynd yn agos at yr afon. Mae gen i ofn dŵr byth!

Beth fyddet ti'n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?

Cynnal diwrnod o deiresa yng Nghanolfan y Delyn Deires yn Nhal-y-llyn (fydd yn agor yn hwyrach eleni) gyda fy nghyd-delynorion. Byddai llwyfan mawr tu allan yn y maes parcio, efo uchelseinydd i 'neud yn siwr fod Cader Idris a Llwyn Onn yn atseinio drwy'r cwm! Ac i ddilyn byddai Hwyrnos y Teiresi yn y Ganolfan.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Fy rhieni, a weithiodd mor galed drwy eu hoes i roi pob cyfle i mi.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Diweddar rieni Rhiain

Petaet ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?

Byddai'n wych bod yn bry ar y wal ym mwthyn Abernodwydd yn nyddiau fy hen, hen daid, William Rees, a gafodd ei eni yno. Dwi'n teimlo rhyw naws arbennig wrth fynd dros y trothwy. Byddai'n ddiddorol profi bywyd beunyddiol Llangadfan yn y 19G. Bum yn ffodus o gael cyfle i chwarae fy nhelyn yno fel rhan o'r gyfres deledu Sain Ffagan.

Dyma driban ysgrifennais i'r hen fwthyn.

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Triban gan Rhiain

Ffynhonnell y llun, Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Rhiain ar y delyn deires

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig