Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Abergele: Newid enw Cymraeg tafarn yn 'ddilornus a diangen'

  • Cyhoeddwyd
The Bridge Head, Abergele
Disgrifiad o’r llun,

Bellach 'The Bridge Head' sy'n ymddangos amlycaf ar yr arwyddion y tu allan i'r dafarn gyda 'Pen-y-bont' mewn ysgrifen fach

Mae penderfyniad i ailenwi tafarn yn Sir Conwy wedi cythruddo pobl yn lleol wrth iddi ailagor ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn dilyn ailwampiad a chyfnod ar gau mae perchnogion y Pen-y-bont yn Abergele wedi penderfynu ailagor y dafarn o dan yr enw 'The Bridge Head'.

Deallir bod bwriad hefyd i ailagor tafarn arall yn y dref, Y Gwindy, fel 'The Winery'.

Ond mae'r penderfyniad wedi cael ei feirniadu'n hallt gyda rhai yn dweud fod y perchnogion wedi cefnu ar "enwau Cymraeg sydd wedi eu sefydlu ers blynyddoedd".

Mae rhai hefyd wedi cwestiynu'r cyfieithiad ei hun gan honni ei fod yn "ddilornus o'r iaith Gymraeg".

Mae'r BBC wedi cysylltu gyda'r perchnogion am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Rhys Jones: "Dwi ddim yn gweld y rheswm pam bod angen iddyn nhw newid yr enw"

Dywedodd Dylan Rhys Jones, sy'n byw yn Abergele, nad oedd yn gweld yr angen i gyfieithu'r enw.

"Mae'n dilorni'r iaith Gymraeg... rhyw fath o gyfieithiad slap dash ydy hwn, sydd ddim yn dderbyniol.

"Mae ganddoch chi y cyfieithiad Saesneg yn fawr ac o dano mae Pen-y-bont mewn ysgrifen fechan iawn.

"Dwi ddim yn gweld y rheswm pam bod angen iddyn nhw newid yr enw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y dafarn gydag arwyddion yn dangos 'Pen-y-bont Inn', cyn y gwaith ailwampio

"Mae o'n hen adeilad, dwi ddim yn siŵr o'r hanes ond o'r hyn dwi'n wybod mae'n hen dafarn a dyma'r enw ers cyn cof.

"Felly pam bod angen newid a defnyddio rhyw gyfieithiad gwael?"

'Gweithred ffyrnig'

Dywedodd Gareth Bolton, sydd hefyd yn byw yn lleol, fod y penderfyniad i "ailfrandio'r" dafarn "wedi denu cryn sylw gan drigolion lleol ar y gwefannau cymdeithasol".

"Rydw i o blaid entrepreneuriaid yn gwneud defnydd o adeiladau gwag yn y dref ond yr hyn na allaf ei gefnogi yw newid difeddwl enwau Cymraeg i Saesneg," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bolton: "Mae'r weithred ffyrnig o ddileu ein hiaith yn wrthun"

"Yn ddiweddar rydym wedi gweld Y Gwindy [sydd ar fin agor] yn newid ei enw i 'The Winery', ac mae'n ymddangos bod yr un grŵp wedi gweld yn addas i newid yr enw ar y Pen-y-bont.

"Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd gan Abergele 16 o dafarndai, pob un ohonynt ag enw Saesneg heblaw Pen-y-bont a'r Gwindy.

"Mae enwau'r sefydliadau hyn wedi'u plethu yn niwylliant, hunaniaeth a hanes lleol.

"Mae'r weithred ffyrnig o ddileu ein hiaith yn wrthun."

Pynciau Cysylltiedig