Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cael pleser o weu i eraill tra'n brwydro canser

  • Cyhoeddwyd
Cywion, Gladys Pritchard ac Ysgol Gymraeg y MorswynFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gladys (yn y sgarff) yn cyflwyno 48 o gywion wedi eu gweu i Ysgol Gymraeg y Morswyn

Mae gwraig o Gaergybi wedi rhoi anrheg Pasg arbennig i'w hysgol gynradd leol, sef 48 o gywion bach wedi eu gweu sy'n dal wyau siocled.

Gladys Pritchard sydd wedi creu pob un ei hun, ac mae hi hefyd wedi bod yn rhannu ei sgiliau gweu a chrosio gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Morswyn.

Crefftio o'r soffa

Ddwy flynedd yn ôl, cafodd Gladys, sy'n 85 oed, ddeiagnosis o ganser a bellach mae hi'n derbyn triniaeth rheolaidd yn Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd. Mae hi'n aml yn ddi-egni ar ôl ei thriniaeth, felly mae gallu crosio neu weu yn rhoi rhywbeth iddi ei wneud adref, meddai.

"Oedd gen i'm nerth o gwbl, felly dyna pam mod i 'di gneud gymaint o bethau; dwi'n gweu blancedi, cardigans bach, stress balls i bobl efo dementia, y cywion 'ma, a dwi'n symud o un i'r llall felly dwi ddim yn diflasu. Dio'm yn boring wedyn.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gladys Pritchard yn mynd i Ysgol Gymraeg y Morswyn bob wythnos i ddysgu'r disgyblion i weu

"'Di pobl sydd ddim yn gweu... 'wn i ddim sut maen nhw'n gneud os oes 'na rywbeth arnyn nhw. Mi alla i weu a darllen yr un adeg, felly dwi'n cael llyfrau o'r llyfrgell ar y cyfrifiadur, ac os oes 'na snwcer ar y teledu, dwi'n gweu ac yn gwylio'r snwcer."

Mae ffrwyth ei llafur yn cael eu rhoi i hosbis lleol neu'r ward oncoleg lle mae hi'n derbyn ei thriniaeth er mwyn codi arian.

Pasio'r grefft ymlaen

Mae Gladys wedi bod yn gweu a chrosio ers iddi fod yn ferch fach, ac mae hi bellach yn rhannu ei doniau gyda disgyblion Ysgol Gymraeg y Morswyn, ysgol sydd yn agos iawn at ei chalon.

"Mae Ysgol Gymraeg Morswyn yn 50 oed y flwyddyn yma. Mae mhlant i wedi bod yma - o'dda nhw yma o'r dechra', mae fy mab fenga' fi hefyd yn 50 eleni - a dwi'n lywodraethwr yma ers blynyddoedd.

"Oherwydd mod i isho trio gneud rhywbeth i ddathlu'r flwyddyn yma, dwi wedi dod at blant y dosbarth i ddysgu iddyn nhw sut i weu. Mi ydan ni wrthi'n gneud bynting iddo gael mynd allan yn y neuadd.

"Dwi'n meddwl fod rhai o'r plant 'ma yn cael pleser o weu."

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

48 o gywion wedi eu gweu gan Gladys Pritchard

Ac mae hithau yn cydnabod ei bod yn cael llawer allan o fynd yn wythnosol i hyfforddi'r plant hefyd, oherwydd iddi golli ei hyder ar ôl ei deiagnosis.

"Do'n i ddim isho wynebu pobl, methu mynd allan, fedrwn i'm dreifio, o'n i'n styc yn tŷ. Ond rŵan mod i'n mynd i Morswyn, dwi'n cael hwyl efo'r plant bach 'ma, a dwi 'di dechrau mynd allan eto - dwi 'di dechra mynd i siopa, dwi 'di prynu car bach, a dwi wrth fy modd.

"Mae o wir wedi gwneud gwahaniaeth i mi. Dwi'n ddiolchgar iawn i Morswyn."

48 o gywion bach

Mae hi wedi bod yn crosio cywion bach i ddal wyau Pasg ers rhyw dair blynedd, ond eleni, cafodd ei hysbrydoli i greu cymeriadau adnabyddus y gyfres C'mon Midffîld - Wali Tomos a Jên Tŷ Cocyn.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Wali Tomos, y cyw bach, yn ei sbectols a'i beret

Penderfynodd grosio cyfeillion i Wali a Jên, ac mae hi wedi cyflwyno 48 o gywion i'r Ysgol y Morswyn.

"Mae un yn cymryd awr i'w weu, wedyn mae angen stwffio'r pen, rhoi'r sgarff a'r llygaid a'r pig. O'dd 'na un hogan fach isho dysgu sut i grosio a hi sydd wedi bod yn gneud y sgarffiau. Siŵr ei fod o'n cymryd rhyw ddwyawr i gyd, a dwi 'di cael pleser yn eu g'neud nhw deud y gwir.

Bob blwyddyn, mae'r un hen gŵyn yn codi, fod wyau Pasg siocled yn mynd yn llai... ac mae gan Gladys brawf fod hyn y wir!

"Dwi'n siŵr fod yr wyau 'ma yn mynd yn llai - achos mae'n rhaid i mi roi cwlwm bach mewn, fel botwm bol, i nadu'r ŵy rhag syrthio!"

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i ŵy siocled ym mhob cyw... ond mae Gladys yn gweld fod yr wyau yn mynd yn llai o flwyddyn i flwyddyn!

Gair o gyngor

A hithau â degawdau o brofiad, beth ydi ei chyngor i'r disgyblion mae hi'n eu dysgu i weu, neu unrhyw un arall sydd am roi cynnig arni?

"Weithiau mae eu gweu nhw'n dyllau i gyd a dwi ddim isho iddyn nhw dorri calon, a dwi'n deud wrthyn nhw, 'fel'na nes innau ddechrau hefyd. Dwi'n gweud ers rhyw 80 mlynedd - mae ganddoch chi lot o amser i fynd!'

"Mae 'na lot o bethau allwch chi eu gwneud os 'newch chi gario mlaen i weu, ond mae'n rhaid i chi bractisio."

Hefyd o ddiddordeb: