Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos

  • Cyhoeddwyd
FfestiniogFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Dor
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Ffestiniog dan orchudd o eira fore Iau

Mae eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos.

Yn hwyr nos Fercher, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd am eira ar gyfer y mwyafrif o'r wlad rhwng 01:00 a 07:00 fore Iau.

Y disgwyl oedd y gallai tipyn o eira ddisgyn ar dir dros 150m o uchder, ac y gallai daro mannau is na hynny mewn rhai ardaloedd.

Mae'r swyddfa yn rhybuddio y gallai'r amodau gael effaith ar deithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd fore Iau.

Mae lluoedd heddlu wedi rhybuddio pobl hefyd i fod yn ofalus, yn enwedig yn ardaloedd Dolgellau a Llangurig, ac i osgoi teithio ble fo hynny'n bosib.

Dyma rai o'r golygfeydd ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ardal Ffair-rhos yng Ngheredigion

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Eira mawr yn ardal Dolgellau

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Sam Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Llangamarch, ger Llanfair-ym-muallt ym Mhowys

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Welsh Hillbilly
Disgrifiad o’r llun,

Llangwyryfon yng Ngheredigion

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Brimrod
Disgrifiad o’r llun,

Yn ardal Coelbren yn ne Powys roedd digon o eira i wneud dynion eira (bach!)

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Lulu
Disgrifiad o’r llun,

Pontarfynach yng Ngheredigion fore Iau

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Sonny Intervals
Disgrifiad o’r llun,

Yn edrych am y mynyddoedd yn ardal Ffestiniog

Disgrifiad o’r llun,

Mae eira wedi disgyn mor bell i'r gogledd â Phenisarwaun, ar gyrion Caernarfon

Rhannwch eich lluniau gyda ni ar [email protected]

Pynciau Cysylltiedig