Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Rhoddion ymgyrch Gething: 'Dim effaith ar gais cynllunio'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Fel yr Aelod o'r Senedd lleol, ni fydd Vaughan Gething yn penderfynnu ar y cais gan gwmni Dauson Environmental Group

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd rhoddion dadleuon i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething yn effeithio ar ei phenderfyniad ynghylch cais cynllunio gan fusnes y rhoddwr.

Yn ei ymgyrch i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, fe dderbyniodd Mr Gething £200,000 gan y cwmni Dauson Environmental Group.

Mae'r cwmni hwnnw, sy'n eiddo i ddyn sydd wedi ei erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol, yn gobeithio codi fferm solar ar Wastadeddau Gwent.

Gan ei fod â statws Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, byddai angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r cynllun.

A hithau newydd ei phenodi'n Ysgrifennydd Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James fydd yn ystyried y cais.

Mewn ymateb i gwestiwn a oedd penderfyniad Mr Gething i dderbyn yr arian wedi ei rhoi mewn sefyllfa anodd, atebodd: 'Na. Mae ceisiadau cynllunio unigol yn cael eu trin yn ôl eu teilyngdod.

"Rwy'n gwybod dim am y cais yna. Fe allai ein sicrhau'n llwyr na fydd wnelo'r prif weinidog dim ag e, a fyddwn i heb dderbyn y job petawn ni'n meddwl bod yna broblem."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy rheolau presennol rhoddion ymgyrchu ddim yn ddigon clir, medd Julie James

Fe fyddai'r datblygiad yn Nhredelerch, yng Nghaerdydd ar safle gwarchodaeth o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Fel yr Aelod o'r Senedd lleol, ni fyddai modd i Vaughan Gething benderfynu ar y cynllun.

Yn ystod y ras am yr arweinyddiaeth, fe ddaeth y BBC Newswybod nad oedd Mr Gething yn gwybod am y cais cynllunio pan dderbyniodd y rhodd.

Ardal apelgar i ddatblygwyr

Mae datblygiadau ar Wastadau Gwent yn ddadleuol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau gais arall yn ddiweddar i godi ffermydd solar ar sail bioamrywiaeth.

Fe gafodd cynllun ffordd liniaru'r M4 ei wrthod hefyd yn 2019 oherwydd ffactorau amgylcheddol.

Mae'r ardal yn apelgar i ddatblygwyr ffermydd solar yn rhannol am fod y peilonau sydd yno yn gwneud hi'n hawdd i gysylltu gyda' grid cenedlaethol.

Dydy cwmni Dauson, sy'n cael ei redeg gan David Neal, heb gyflwyno cais cynllunio llawn eto ond mae'n fwriad i wneud hynny yn ystod tri mis olaf 2024.

Wedi i Mr Gething ddod yn arweinydd ei blaid, fe alwodd Julie James am adolygu rheolau rhoddion ymgyrch, ac fe wnaeth Mr Gething addewid y byddai hynny'n digwydd.

Dywedodd Ms James ei bod yn falch o hynny, ond bod angen i'r adolygiad "wneud nifer o bethau" a bod y rheolau presennol yn "gymylog".

Mae Mr Gething wedi mynnu o'r dechrau bod rhoddion i'w ymgyrch wedi eu cofnodi'n gywir.

Mae Politics Wales yma ar iPlayer.