Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Beth sydd wedi mynd o'i le i dîm rygbi merched Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Gwenllian Pyrs
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian Pyrs yn taclo Evie Gallagher

Gyda thîm Cymru ar waelod tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar hyn o bryd, Prif Sylwebydd Rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies sy'n bwrw golwg ar sefyllfa'r gamp yng Nghymru.

12 mis yn ôl roedd pob dim yn fêl i gyd i dîm rygbi menywod Cymru.

Wedi sawl blwyddyn gythryblus ar ac oddi ar y cae, mi oedd hi'n ymddangos fod tîm Ioan Cunningham wedi troi cornel.

Cipwyd tair buddugoliaeth yn ymgyrch y llynedd wrth orffen yn y trydydd safle, y gorau ers 2009 gan godi i'r chweched safle ar restr detholion y byd.

Mi oedd pob dim yn symud i'r cyfeiriad cywir yn sgil cyflwyno cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf, a llafur caled y garfan yn dwyn ffrwyth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi colli pob un o'u gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yma

Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae'r sefyllfa wedi mynd o chwith - heb yr un fuddugoliaeth mae Cymru ar waelod tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar ôl colli'n drwm o 36-5 ar yr Ynys Werdd.

Y nod nawr fydd ceisio osgoi gorffen ar waelod y tabl - mi fyddai hynny'n arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol a'r posibilrwydd o lithro i adran WX3 - trydedd haen gwledydd y byd.

Fe fyddai hynny'n anodd dirnad ar ôl cystadlu yn WX1 - haen gyntaf gwledydd y byd - yn Seland Newydd y llynedd.

Beth sydd wedi mynd o'i le?

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham yn cydnabod fod 'na gyfnod ansefydlog ar hyn o bryd wrth i'r tîm drawsnewid ac wrth i nifer o wynebau cyfarwydd rhoi'r gorau i'r gamp.

Mae Elinor Snowsill, Caryl Thomas a Sioned Harries bellach wedi ymddeol, ac mae'r baton wedi trosglwyddo i'r genhedlaeth nesa' wrth i chwaraewyr fel Gwenan Hopkins a Sian Jones fwrw'i swildod ar y lefel rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Elinor Snowsill ymddeol o'r gamp fis Awst

Ond dyw hynny ddim yn esgusodi'r perfformiadau a'r rhwystredigaeth yn amlwg.

"Ma' rhaid i ni ddysgu sut i ddelio â phwysau a llwyddo gwireddu'n potensial ar y llwyfan mawr, dyna ble ma'r diffyg wedi bod eleni yn hytrach nac unrhywbeth yn ymwneud â gallu ac elfennau tactegol neu dechnegol", medd Cunningham.

Probelmau dyfnach?

Y neges yn glir yw cadw'r ffydd ac i aros yn driw i'r cynllun, ond oes 'na ffactorau eraill sydd angen eu datrys?

Yn ddigon naturiol yn y byd proffesiynol mi fydd perfformiad y tîm a'r hyfforddwyr yn dod o dan y chwyddwydr o ran y canlyniadau siomedig, ond yn fwy o bryder, sut mae'r garfan wedi cymryd sawl cam yn ôl ar eu taith broffesiynol?

Mae Ioan Cunningham o dan gytundeb tan Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, a dyw ei ymroddiad ddim wedi pylu o gwbl er gwaetha'r canlyniadau diweddar.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl mai fi yw'r person iawn i arwain y tîm yma, yn amlwg lan i eraill yw hynny, ond ar yr un pryd ma' rhaid i ni fod yn hollol onest da'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Cunnigham wedi cydnabod bod problemau dyfnach yn ymwneud â strwythur y gêm yng Nghymru

Ond fe wnaeth gyfaddef fod 'na broblemau dyfnach yn ymwneud â strwythur y gêm yng Nghymru, a'r ffaith fod angen diwygio er mwyn paratoi'r chwaraewyr ar gyfer y tîm cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae 'na wledydd yn cynnwys Cymru o dan anfantais sylweddol.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "anodd cymharu gwledydd ar hyn o bryd mae'n annheg mewn ffordd, os i chi'n edrych arnom ni yng Nghymru ma' angen cynghrair domestig yn druenus, mae gymaint o dalent yn dod drwodd ond does unman gyda nhw i chwarae, dyw hwnna ddim yn iawn".

Heb os mae 'na gamau enfawr wedi digwydd i hybu'r gêm yn y blynyddoedd diwethaf, ond y neges glir yw bod llawer yn dal i'w gyflawni er mwyn sicrhau fod Cymru'n gyson yn cystadlu â thimau gorau'r byd.