Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Pum nofiwr o Gymru i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris

  • Cyhoeddwyd
Matt RichardsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matt Richards yn gobeithio ennil pum medal yn y Gemau ym Mharis

Mae pum nofiwr o Gymru wedi eu dewis i fod yn rhan o garfan Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis yn yr haf.

Y Cymry sydd yn y garfan yw Medi Harris, Daniel Jervis, Kieran Bird, Matthew Richards a Hector Pardoe.

Mae'r garfan lawn yn cynnwys 33 nofiwr, gan gynnwys rhai o enwau mawr y gamp fel Adam Peaty, Tom Dean ac Anna Hopkin.

Ar ôl cipio'r fedal aur fel rhan o dîm cyfnewid dynion 4x200m yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020, mae Matt Richards â'i olygon ar gipio pum medal ym Mharis yn yr haf.

Daw hyn ar ôl iddo ennill y rasys 100m a 200m rhydd yn nhreialon Prydain ddechrau Ebrill.

Wedi blwyddyn lwyddiannus i Medi Harris o Borthmadog, yn cipio'r fedal aur ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop yn 2023, mae hithau wedi'i chynnwys yn y garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medi Harris o Borthmadog wedi cael blwyddyn lwyddiannus

Mae Kieran Bird wedi sicrhau ei le yn y garfan, er iddo beidio â chyrraedd y gofynion amser wrth guro'r ras 400m dull rhydd yn y treialon ddechrau'r mis.

Yn wahanol i'r pedwar nofiwr arall - fydd yn cystadlu yn y pwll - bydd Hector Pardoe yn cystadlu yn y gystadleuaeth nofio marathon, a hynny ar ôl iddo ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd fis Chwefror.

Dyma ail Gemau Olympaidd Dan Jervis, wedi iddo ddod yn bumed yn y ras 1500m rhydd yn Tokyo yn 2020.

Bydd y gemau'n cael eu cynnal ym Mharis rhwng 26 Gorffennaf a 11 Awst 2024.

Pynciau Cysylltiedig