Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Dau geffyl wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A465

  • Cyhoeddwyd
Yr A465 ger RhymniFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A465 ger Rhymni

Mae dau geffyl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd fore Mercher.

Cafodd yr heddlu a chriwiau tân eu galw i'r digwyddiad ar yr A465 ger Rhymni am tua 04:40.

Roedd cerbyd a thri cheffyl yn rhan o'r gwrthdrawiad. Fe wnaeth dau geffyl farw yn y fan a'r lle.

Mae'r A465 wedi bod ynghau i'r dwyrain rhwng Dowlais a Rhymni, a'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin bellach wedi ailagor.

Pynciau Cysylltiedig