Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Dedfrydu dynes o Fôn am ymosodiad rhyw ar fachgen, 15

  • Cyhoeddwyd
CaernarfonFfynhonnell y llun, Google

Mae dynes wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl pledio'n euog i ymosod yn rhywiol ar fachgen 15 oed.

Roedd Delyth Davies, 36, o Faes Meurig, Gwalchmai, hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad ar wahân o fygwth dyn gyda chyllell mewn man cyhoeddus.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod yr ymosodiad rhyw wedi digwydd yn Llangefni ar 7 Mawrth, 2022.

Roedd Davies, oedd o dan ddylanwad alcohol ar y pryd, wedi cusanu'r bachgen mewn ffordd rywiol, gwneud sylwadau o natur rywiol ac yna wedi gofyn iddo a oedd eisiau cael rhyw.

Clywodd y llys fod y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi dioddef yn sgil y digwyddiad a'i fod wedi effeithio ar ei hyder ac wedi dioddef o orbryder.

Bygwth dyn gyda chyllell

Roedd y cyhuddiad arall yn dilyn digwyddiad yn Hydref 2022 pan aeth ati i fygwth dyn gyda chyllell mewn man cyhoeddus ar ddiwedd noson allan.

Dywedodd Elen Owen, yn amddiffyn, fod Delyth Davies yn "edifar" ac "eisiau ymddiheuro" am yr hyn ddigwyddodd.

Ychwanegodd ei bod wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl "sylweddol", ac "wedi defnyddio alcohol i geisio ymdopi".

Nododd y barnwr, Nicola Saffman, fod gan Davies eisoes record droseddol gan gynnwys torcyfraith yn seiliedig ar ei phroblemau gydag alcohol.

Ychwanegodd ei bod yn "agos iawn at dderbyn dedfryd o garchar yn syth".

Wrth roi dedfryd o 21 mis o garchar wedi ei gohirio, pwysleisiodd y barnwr "bod yn rhaid dod â'r cylch o dorcyfraith i ben".

Yn ogystal â gorfod gwisgo tag electronig i sicrhau nad yw'n yfed alcohol am bedwar mis, fydd hi ddim yn cael gadael ei chartref bob nos rhwng 22:00 a 06:00 am gyfnod o chwe mis.

Pynciau Cysylltiedig