Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

WNO: Dim perfformiad yn Llandudno yn 2025

  • Cyhoeddwyd
OperaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio Candide gan Leonard Bernstein

Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n perfformio yn Llandudno ddechrau'r flwyddyn nesaf oherwydd problemau ariannol.

Ni fydd y cwmni'n mynd i Venue Cymru, na chwaith i Fryste, yn 2025 oherwydd "heriau ariannol cynyddol".

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi gweld toriadau yn eu cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Oherwydd hynny, ni fydd perfformiadau yn Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025, na The Bristol Hippodrome ym mis Chwefror, gan fod y cwmni'n gorfod cyflwyno "arbedion cyllidebol sylweddol".

Mae'r cyllid mae'r cwmni yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Lloegr wedi cael ei dorri 35%.

Arweiniodd hynny at y penderfyniad i roi'r gorau i berfformio yn Lerpwl yn 2022. Maen nhw wedi parhau i berfformio yn rhai o ddinasoedd eraill Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Opera Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Un Ballo in Maschera gan Verdi

Yn gynharach eleni, anfonodd cyfarwyddwr cerdd WNO, Tomáš Hanus, lythyr agored at Gyngor Celfyddydau Lloegr yn rhybuddio byddai'r cwmni "yn ei chael hi'n anodd cynnal ei hunaniaeth a safonau ar gyllideb nad yw hyd yn oed yn ddigonol ar gyfer theatr ranbarthol fach, o'i gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill".

Cafodd y llythyr ei arwyddo hefyd gan y cantorion opera Syr Bryn Terfel a Rebecca Evans, yn ogystal â'r cyfansoddwr Syr Paul Mealor a'r arweinydd Carlo Rizzi.

Roedden nhw'n rhybuddio "os bydd ein cenhedlaeth ni'n methu ag amddiffyn y trysor hwn, ac yn gadael iddi ddiflannu, byddai'n anodd i genedlaethau'r dyfodol ddod o hyd i unrhyw gyfiawnhad drosto".

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn derbyn 11.8% yn llai o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn eu hadolygiad buddsoddi ym Medi 2023.

'Siom fawr i'n cynulleidfaoedd'

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol dros dro WNO, Christopher Barron, ei fod yn gwybod bydd y penderfyniad i dorri nôl ar berfformiadau yn "siom fawr i'n cynulleidfaoedd ym Mryste a Llandudno."

Ychwanegodd bod "y sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu'r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu".

"Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniad anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau.

"Mae'r penderfyniadau wedi cael eu hystyried yn ofalus ac wedi cael eu trafod gyda'n lleoliadau a'r cynghorau celfyddydol."

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi pwysleisio eu bod yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr hydref eleni, ac yn bwriadu gwneud prosiect creadigol gydag ysgolion sir Conwy.

Ond fydden nhw ddim yn perfformio yno y gwanwyn nesa', a does 'na ddim penderfyniadau eto ynglŷn â'r flwyddyn ar ôl nesa', er bod y cwmni yn pwysleisio y bydden nhw'n parhau i deithio yng Nghymru a Lloegr.

'Diwrnod trist i ogledd Cymru'

Cafodd y cerddor a'r beirniad Trystan Lewis ei fagu yn ardal Llandudno ac mae o a'i deulu wedi bod yn mynd i Venue Cymru i wylio opera.

Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod trist i gerddoriaeth yng Nghymru ac i ogledd Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cerddor Trystan Lewis y "bydd yn rhaid teithio i Lerpwl neu Fanceinion neu Lundain" i wylio opera

"'Da ni'n mynd i golli hygyrchedd opera... ma' pobl di bod yn deud bod yr opera yn wbath elitaidd ond mi oedd y WNO yn rhoi cyfle i blant ysgol i fynd i wylio operâu a gweithdai opera yn Venue Cymru.

"Adeiladwyd Venue Cymru mewn gwirionedd er mwyn y WNO oherwydd mi oedd y theatrau eraill yn annigonol, ac felly 'da ni'n colli allan fel gogledd Cymru ac mi fydd yn rhaid i ni fynd i Lerpwl i Fanceinion neu i Lundain oherwydd hynny."

'Cyfnod heriol iawn i'r celfyddydau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae hi'n gyfnod heriol iawn i'r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn yr hinsawdd sydd ohoni.

"Rydym yn deall yr angen i Opera Cenedlaethol Cymru addasu ei rhaglen yng Nghymru a Lloegr yn wyneb yr heriau, a byddwn yn parhau i gydweithio yn agos â nhw ac eraill i wneud yn siŵr fod opera yn cyrraedd cynifer o bobl Cymru â phosib.

"Rydym yn falch fod Opera Cenedlaethol Cymru am ymweld â Llandudno yn yr Hydref, gyda chynhyrchiad newydd o Rigoletto, ochr-yn-ochr â Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn ogystal â pherfformiad o rai o ffefrynnau'r byd opera."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr eu bod yn "buddsoddi £15.3m yn Opera Cenedlaethol Cymru dros y tair blynedd nesaf ar gyfer eu gwaith yn Lloegr.

"Mae hyn yn cynnwys £4m y flwyddyn mewn cyllid craidd, a £3.25m ychwanegol i alluogi WNO i ailstrwythuro eu busnes i ymdopi â lefelau is o gyllid.

"Gwyddom fod sefydliadau ar hyn o bryd yn wynebu amgylchedd heriol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau sy'n wynebu heriau ariannol a bod mor hyblyg ag y gallwn fod yn y ffordd y maent yn cyflawni eu cytundebau."

Pynciau Cysylltiedig