Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Galw am gosbau llymach i yrwyr meddw sy'n lladd

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Family picture
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Miriam Briddon ei lladd gan yrrwr meddw pan oedd hi'n 21 oed yn 2014

Mae 90% o bobl yng Nghymru eisiau gyrwyr sy'n achosi marwolaeth pan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau i gael eu cyhuddo o ddynladdiad, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae'r ffigyrau gan elusen Brake hefyd yn dangos bod 68% o bobl yn meddwl y dylai gyrwyr sy'n achosi marwolaeth gael eu carcharu am o leiaf 10 mlynedd.

Mae 90% hefyd yn meddwl y dylai'r rheiny sy'n lladd wrth dorri'r gyfraith gael eu cyhuddo o yrru'n beryglus, yn hytrach na gyrru'n ddiofal.

Ar gyfartaledd, mae gyrwyr sydd yn achosi marwolaeth yn cael eu dedfrydu i lai 'na pedair blynedd o garchar.

'Perygl a dinistriol'

Mae ymgyrch Roads To Justice Brake yn cael ei gefnogi gan Ceinwen Briddon o Gei Newydd yng Ngheredigion.

Cafodd merch Mrs Briddon, Miriam ei lladd gan yrrwr meddw pan oedd hi'n 21 oed yn 2014.

Fe wnaeth Gareth David Entwhistle, 35 oed o Giliau Aeron, Llambed, gyfaddef i achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol a chafodd ei garcharu am bum mlynedd.

"Mae gormod o deuluoedd yn dioddef y trawma o golli rhywun yn sydyn ac wedyn yn gweld y system gyfiawnder yn troi eu cefnau arnyn nhw," meddai Gary Rae o Brake.

"Yn rhy aml, mae gyrwyr sy'n lladd wrth dorri'r gyfraith yn cael eu labelu yn 'ddiofal' ac wedyn yn derbyn dedfrydau byr, ond yr unig ffordd o ddisgrifio eu hymddygiad ydi perygl a dinistriol."