Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Blwyddyn heb alcohol: 'Mam, ti'n yfed gormod'

  • Cyhoeddwyd
Caren a'i gwr, DicFfynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Caren gyda'i gŵr, Dic - mae hi bellach wedi nodi blwyddyn heb yfed alcohol

Mae Caren Brown yn cofio bod yn ymwybodol bod gan ei thad broblem yfed pan oedd hi yn ei harddegau; erbyn roedd hi yn y coleg roedd hi'n taro mewn iddo yn nhafarndai Bangor, lle roedd hi'n fyfyrwraig; fel oedolyn aeth i gyfarfodydd ar gyfer teuluoedd pobl alcoholig i geisio deall ei theimladau am alcoholiaeth ei thad.

Ond ar ôl troi'n 50 mae Caren wedi wynebu ei chroesffordd ei hun gydag alcohol.

Digwyddodd hynny ar 30 Gorffennaf 2020 - dyma'r diwrnod y dywedodd ei merch wrthi ei bod yn poeni am faint roedd hi'n ei yfed ar ôl penwythnos arall ddim yn cofio mynd i'w gwely.

O ganlyniad, penderfynodd Caren ar y diwrnod hwnnw y byddai'n rhoi'r gorau i alcohol. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae hi wedi cadw at ei gair ac yn dal heb yfed.

Drwy gyfnewid y cwrw a'r gwin am baned a ginger beer, mae hi'n dweud ei bod yn teimlo'n well ac yn fwy egnïol.

'Carwriaeth' efo alcohol

"Roedd gen i garwriaeth efo alcohol ers pan o'n i tua 14 oed, ond un oedd wedi dechrau troi yn sur wrth imi fynd yn hŷn," meddai wrth rannu ei phrofiad ar bodlediad Siarad Moel.

"Dwi wedi mwynhau yfed alcohol ers blynyddoedd ac wedi cael lot o hwyl yn ei gwmni. Ond yn y blynyddoedd diwetha' yma 'o'n i'n dechrau amau fy hun ac ella'n difaru weithiau pan 'o'n i'n yfed ac yn anhapus efo fy hun. A dechrau meddwl wedyn be fysa'n digwydd os fyswn i'n rhoi gorau iddi?

Ddim yn cofio mynd i'r gwely

Doedd Caren ddim yn cyfri ei hun yn rhywun â phroblem alcohol am mai "yfwr penwythnos" oedd hi.

Ond byddai'n yfed gormod ar nos Wener, yn dioddef y diwrnod wedyn, yn yfed eto ("mwy na phawb arall") gyda'r cinio dydd Sul teuluol, yna wedi blino'n llwyr yn ei gwaith fore Llun ac yn cymryd dyddiau i ddod drosto; cyn dechrau'r cylch eto ar y nos Wener ganlynol.

"Fyswn i'n dechrau meddwl ar fore dydd Gwener, yn ystod y dydd yn y gwaith, 'ga'i lasiad o win heno ma'… "

"Ro'n i'n mynd i ngwely yn dawel, ddim yn poeni neb, ond yn deffro yn y bore ddim yn cofio mynd i ngwely."

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caren yn agos at ei mam, Linda, a'i chwaer, y gantores a'r actores, Lisa Jên, ac yn aml yn rhannu cinio dydd Sul efo nhw, ond hi fyddai bob amser yn yfed y mwyaf o win

Byddai'n dal i wneud pethau ar benwythnosau, yn cael amser cymdeithasol, yn mynd i foreau coffi, gigs a'r Ysgol Sul, ond roedd hi wedi blino'n barhaus.

Byddai'n aml ddim yn cofio pethau oedd wedi digwydd, ddim yn cofio'r band oedd yn chwarae, ddim yn cofio dod adre.

"Mae'n rhywbeth personol i bawb. Dydi be' sy'n broblem i fi ddim bob amser yn broblem i ti.

"Oedd o yn broblem i fi; oedd o'n teimlo'n broblem i fi, nid i neb arall o nghwmpas i, achos o'n i wedi blino, doedd gen i ddim 'mynadd, dim lot o egni, o'n i'n gallu bod yn reit emosiynol am bethau, achos mod i 'di blino mae'n siŵr."

Ac erbyn y diwedd roedd hi'n teimlo ei bod ar olwyn hamster mewn cylch dieflig o yfed, blino, dechrau teimlo'n well, ac yfed eto.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Caren yn rhannu ei phrofiad ar bodlediad Siarad Moel gyda Aled Hughes

'Dwi'n poeni amdanat ti, Mam'

Ond daeth yr olwyn i stop ar Gorffennaf 30 2020, diolch i'w merch, Elin.

Roedd y teulu wedi mynd i Gaerdydd i aros efo ffrindiau i achlysur dathlu seremoni raddio Elin.

Fe yfodd Caren ormod nos Wener; ond roedd hi'n iawn ddydd Sadwrn ac yn gyrru i weld ffrindiau yn y brifddinas.

"Erbyn nos Sadwrn nes i lithro eto a nes i yfed 'chydig bach yn ormod eto a fe wnaeth fy ffrindiau fy ngherdded i adre."

Roedd hi'n gwybod ei bod wedi cyrraedd adre yn saff ond doedd hi ddim yn cofio mynd i'w gwely.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ei merch, Elin, wnaeth sbarduno Caren i newid ei pherthynas gydag alcohol

"Dyma Elin yn deud wrtha fi wedyn ar y dydd Sul: 'Mam dwi'n dechra poeni amdanat ti, dwi'n meddwl bod ti'n yfed gormod. Pan ti'n yfed, ti jyst yn yfed gormod a dwi rili ofn bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i chdi. Plis, wnei di feddwl be' ti'n neud?'"

Er ei bod yn rhesymu nad oedd hi ond yn yfed ar benwythnosau, ei bod wedi cerdded adre yn ddiogel, byth yn yfed nes oedd hi'n syrthio drosodd, fe wnaeth pryder Elin ei sobri, yn llythrennol.

"O'n i'n teimlo'n ofnadwy o euog," meddai Caren.

"A gwybod bod alcoholiaeth yn gallu bod yn rhywbeth sy'n gwaethygu wrth fynd yn hŷn a meddwl sut fysa hi 'swn i'n trio rhoi'r gorau iddi?"

"A hyd yn hyn, dwi'n mwynhau o."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Caren, Pete, wedi stopio yfed ers 10 mlynedd

Alcohol yn rhan o fywyd

Wnaeth ei phrofiad ei hun efo'i thad ddim ei throi hi oddi wrth y ddiod neu wneud iddi hi feddwl ei bod hithau ar y ffin i fod yn alcoholig?

"Oedd o wedi croesi fy meddwl [mod i ar yr un llwybr â Dad] ond am mod i ddim yn yfed o gwbl yn ystod yr wythnos o'n i'n meddwl dwi'n fine, dwi'n gallu rheoli fo ac roedd fy nheulu a'n ffrindiau i'n deud yr un peth…

"'Ti'n iawn, ti'n haeddu fo, mae'n iawn i ti gael let loose'. Dwi'n gwneud yr un peth efo pobl eraill: 'Ma'n iawn iti gael diod, ti wedi gweithio drwy'r wythnos, ti'n haeddu fo, ti 'di cael wythnos galed'.

"Rydyn ni'n ei gyfiawnhau o.

"Nes i ddim meddwl mod i'n mynd i droi allan yn alcoholic 'traddodiadol'."

Wrth edrych yn ôl felly, oedd hi?

"Dwi meddwl os fyswn i 'di cario mlaen ella fyse fo wedi gwaethygu, a wedyn ella fyswn i 'di bod angen 'chydig bach mwy o help ond dwi'n meddwl mod i 'di ddal o mewn pryd.

"Mae alcohol yn iawn os ydi rhywun yn gallu ei reoli fo ond dwi'n meddwl bod 'na lot o bobl allan fanna sydd ddim yn gallu ei reoli fo.

"Dan ni'n siarad am un o'r sylweddau sydd fwyaf addictive, a'r hawsaf i gael gafael arno fo."

Er nad ydy Caren yn gallu dweud eto a fydd hi'n rhoi'r gorau iddi am byth, mae'n cymryd ysbrydoliaeth gan ei thad sydd wedi llwyddo i roi'r gorau iddi ers 10 mlynedd.

"Dan ni'n gorfod cymryd un dydd ar y tro. Mae Dad yn deud hynna - mae o wedi ffeindio ryw serenity anhygoel ers iddo fo stopio yfed dros 10 mlynedd yn ôl."

Mae ei thad yn pwysleisio nad ydi'r botel nesaf ddim ond hyd braich i ffwrdd. Ac er bod Caren yn dweud mai mater syml ydi dewis peidio ei hyfed, dydi hynny ddim bob amser yn hawdd i bawb.

Mae hi'n yn methu alcohol weithiau, meddai.

"Fedra i ddim dweud nai byth yfed eto, ond 'swn i'n licio meddwl na wna i byth wneud eto a 'na'i drio ngorau i byth yfed eto."

Drwy ap ar ei ffôn mae'n amcangyfrif iddi arbed £1,895 mewn blwyddyn a thros 121,000 o galorïau ond mae'r manteision iechyd i'w bywyd bob dydd yn yn amlwg.

"Dwi'n rhedag lot mwy, dwi'n byta'n iachach, achos dwi ddim yn teimlo mod i angen binjo ar benwythnosau achos mod i 'di bod yn yfed lot y noson cynt.

"Dwi'n mynd i'r gwely efo gwên ar fy wyneb yn gwybod mod i'n mynd i ddeffro a ddim yn teimlo wedi blino."

Hefyd o ddiddordeb: