Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Ryan Giggs 'wedi llusgo'i gariad o ystafell westy yn noeth'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs wedi'i gyhuddo o reoli ei gyn-gymar Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer

Mae llys wedi clywed fod cyn-chwaraewr Cymru a Manchester United, Ryan Giggs, wedi taflu ei gariad allan o ystafell westy yn noeth.

Mae Mr Giggs, 48, wedi'i gyhuddo o reoli ei gyn-gymar Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma.

Mewn cyfweliad a gafodd ei glywed yn y llys, dywedodd Ms Greville, 36, wrth yr heddlu mai Mr Giggs oedd ei "ffrind gorau", ond ei fod hefyd yn "sarhaus a chas".

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae wedi'i gyhuddo o ymddwyn tuag at Ms Greville mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod arni gan achosi niwed corfforol, ac o ymosod ar Emma Greville yn ystod digwyddiad yn ei gartref yn Worsley ym Manceinion ar 1 Tachwedd 2020.

Wedi 'colli hi'

Cafodd Ms Greville ei chyfweld gan yr heddlu wythnosau wedi iddi honni fod cyn-reolwr Cymru wedi ymosod arni.

Dywedodd fod Mr Giggs unwaith wedi "colli hi" mewn gwesty wedi iddi grybwyll y ffaith y bu'n gyrru negeseuon at fenyw arall.

Yn ôl Ms Greville fe wnaeth Mr Giggs afael ynddi tra'i bod yn gorwedd yn noeth yn y gwely yn eu hystafell yn y gwesty, a'i "llusgo" i'r coridor gyda'i heiddo.

Dywedodd Ms Greville fod y digwyddiad wedi gwneud iddi deimlo "cywilydd ac embaras".

Yn ôl Ms Greville fe wnaeth hi ddarganfod tystiolaeth cyn yr ymosodiad ym mis Tachwedd 2020 fod Mr Giggs wedi bod mewn perthynas ag wyth o fenywod gwahanol dros gyfnod o chwe blynedd.

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Giggs yn gwylio wrth i gyfweliad Kate Greville gyda'r heddlu gael ei chwarae yn y llys

Ychwanegodd fod Mr Giggs "bron fel dau berson" yn ystod eu perthynas.

Dywedodd wrth dditectifs ei bod hi a Mr Giggs yn briod i bobl eraill pan ddechreuodd eu perthynas.

"Roedd yn arfer dweud wrtha i am ei briodas ef ac nad oedd yn hapus, a bydden i yn siarad am fy un i," meddai.

Dywedodd fod pethau "wedi datblygu" o hynny a'i bod wedi gadael ei gŵr ddeufis yn ddiweddarach.

"Roedd fel ffrind gorau, soulmate. Ef oedd yr un i fy achub i o'r briodas yna," meddai.

Clywodd y llys bod Mr Giggs a Ms Greville wedi bod allan gyda ffrindiau mewn gwesty ym Manceinion ar 1 Tachwedd 2020, a'r bwriad oedd aros yno dros nos.

Ond fe drodd sylwadau gan Ms Greville am ddyn arall oedd wedi gofyn iddi a fyddai'n hoffi mynd allan am ddiod gydag ef yn ffrae rhwng y ddau.

Ar y pryd, roedd Ms Greville wedi penderfynu dod â'u perthynas i ben ond roedd yn disgwyl tan y byddai'n gadael Manceinion cyn gwneud hynny.

Clywodd y llys bod Ms Greville wedi "arwyddo am fflat yn gyfrinachol" ac wedi "cynllunio i siarad â chyfreithiwr am y ci".

Ond wedi'r ffrae yn y gwesty, aeth y ddau adref, ac fe drodd y ffrae yn gorfforol. Dywedodd fod Mr Giggs wedi ei dal i lawr ac wedi gwthio'i hun arni, cyn ei tharo gyda'i ben.

"Ro'n i mewn sioc, mi wnes i ddisgyn yn ôl... roedd fy ngwefus wedi chwyddo yn syth," meddai.

Ychwanegodd Ms Greville: "Roedd o eisiau fy mrifo yn fwriadol... mi edrychodd i'm llygaid a fy nharo i yn fy wyneb gyda'i ben."

Dywedodd Ms Greville wedyn bod Giggs wedi dweud wrthi: "Mae angen i ti feddwl am hyn, Kate. Bydd hyn yn fy nifetha i a bydd yn dy ddifetha di. Meddylia am fy swydd, meddylia am fy ngyrfa, meddylia am fy mhlant.

"A dywedais: 'Wel, dylet ti heb fod wedi gwneud hynna'."

Cyrhaeddodd yr heddlu a chafodd Mr Giggs ei arestio.

'Chwarae gemau meddyliol'

Yn ystod eu perthynas dywedodd Ms Greville fod Mr Giggs wedi addo sawl gwaith y byddai'n dod â'i briodas yntau i ben ond nad oedd hynny wedi digwydd.

Dywedodd ei bod wedi penderfynu peidio â siarad gyda'r pêl-droediwr am gyfnod ac anwybyddu ei negeseuon a'i alwadau.

Ychwanegodd fod Mr Giggs wedi dod i'w chartref a'i bod wedi ei anwybyddu eto, a'i fod wedi gweiddi: "Rwyt ti'n hwren. S'gen ti rywun mewn yna?"

Aeth ymlaen i fygwth y byddai'n dweud wrth ei rheolwr am eu perthynas, meddai.

Dywedodd y byddai Mr Giggs yn dweud wrthi fod ei briodas ar ben, ond ei bod eto wedi darganfod nad oedd hynny'n wir.

"Roedd yn chwarae gemau meddyliol. Aeth hynny ymlaen am amser hir," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Manceinion bara am 10 diwrnod

Clywodd y llys fod y berthynas wedi'i wneud yn gyhoeddus ym mis Mai 2016, a dywedodd Ms Greville bod hynny'n gyfnod "ofnadwy" wrth iddi gael ei dilyn gan ffotograffwyr.

Dywedodd fod y berthynas wedi dod i ben cyn ailddechrau ar sawl achlysur, a'i bod ar adegau wedi rhwystro Mr Giggs ar ei ffôn ac e-byst.

"Roedd hi fel 'mod i'n gaeth iddo fe. Allwn i ddim ei gael mas o'm mhen," meddai.

Dywedodd fod Mr Giggs wedi dweud wrthi ei fod angen mwy o amser i ddod â'i berthynas gyda'i wraig i ben.

Yn ôl Ms Greville roedd hi wedi pwyso arno i wneud penderfyniad ond ni wnaeth pethau newid, felly symudodd hi i Abu Dhabi i "gael i ffwrdd ohono".

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kate Greville yn rhoi tystiolaeth o du ôl i sgrin

Fe gyfeiriodd Ms Greville at ddigwyddiad honedig ym mis Chwefror 2020, pan gafodd hi gleisiau ar ei harddyrnau ac ar ei phen glin tra ar wyliau gyda Mr Giggs yn Dubai.

Dywedodd bod y ddau wedi mynd allan am fwyd, ond ar y ffordd nôl i'r gwesty, mae hi'n honni iddo ei chyhuddo hi o fod yn feddw.

"Es i'n dawel. Roeddwn i'n teimlo fel ei fod o'n ymosod arna i drwy'r amser, a doeddwn i ddim yn gwybod pam," meddai.

Esboniodd hi sut yr oedd aros yn dawel yn aml yn ei "weindio i fyny", ac mai dyma ddigwyddodd ar yr achlysur yma.

"Dywedodd fy mod i yn union fel ei gyn-wraig... dim dyma oedd y tro cyntaf, roedd o'n un o'i hoff sarhadau. Roedd o'n gwybod pa effaith fyddai hynny yn ei gael arna i.

"Byddai'n dweud bod ganddi broblem ag alcohol, yn gwneud ei fywyd yn uffern, a fy mod i'r union yr un peth."

Aeth Ms Greville ymlaen i ddweud bod Mr Giggs wedi gofyn iddi wneud ei ffordd ei hun i'r maes awyr ar y diwrnod canlynol, ond ei fod o wedi ei rhwystro hi wrth iddi geisio gadael, ac wedi gafael ynddi gan achosi iddi ddisgyn ar ei phen-glin.

Fe dynnodd hi luniau o'r anafiadau ar ôl mynd i aros gyda ffrind arall yn Dubai.

Mae'r achos yn parhau.