Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Teulu yn cyflwyno deiseb yfed a gyrru i Downing Street

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Miriam Briddon ger Ciliau Aeron yn 2014

Mae teulu merch ifanc o Geredigion gafodd ei lladd gan ddyn oedd wedi yfed a gyrru yn gobeithio y bydd eu deiseb yn perswadio Llywodraeth Prydain i newid canllawiau dedfrydu troseddwyr yfed a gyrru.

Cafodd Miriam Briddon, oedd yn 21 oed, ei lladd ger Ciliau Aeron ym mis Ebrill 2014.

Fe wnaeth Gareth Entwistle o Giliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan, gyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol. Cafodd ddedfryd o bum mlynedd, ond dim ond hanner y cyfnod hwnnw y bydd yn gorfod treulio dan glo.

Yn ôl teulu Miriam, dyw'r canllawiau dedfrydu ar hyn o bryd ddim yn ddigon llym.

"Fe gath e ddedfryd o bum mlynedd, ond hanner y pum mlynedd 'na fydd e yn y carchar," meddai mam Miriam, Ceinwen. "Ni'n teimlo bod hwnna, mewn ffordd yn insult i fywyd Miriam, a does dim cyfiawnder o gwbl yn hynny."

Disgrifiad,

Ceinwen Briddon yn son am y gefnogaeth sydd wedi bod i'r ddeiseb

Fe deithiodd y teulu i Downing Street ddydd Iau, i gyflwyno deiseb sy'n galw ar y llywodraeth i newid y canllawiau dedfrydu ar gyfer achosion o yfed a gyrru.

Ychwanegodd Ceinwen Briddon: "Ar hyn o bryd mae'r canllawiau yn nodi gall rhywun gael rhwng un a 14 o flynyddoedd yn y carchar. Ddim yn aml iawn mae rhywun yn cael mwy na cwpwl o flynydde.

"Ni'n gofyn iddyn nhw rhoi dedfryd llym i rywun sy'n lladd. Ni hefyd yn gofyn bod gyrru'n ddiofal ddim yn rhywbeth sy'n cael ei roi fel cyhuddiad, a dyle fod lleiafswm o 10 mlynedd - wrth gwrs yn y carchar am 10 mlynedd, ddim yn cael ei haneru i fod allan o fewn pum mlynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Miriam Briddon yn cyflwyno'r ddeiseb yn Downing Street

Cafodd y ddeiseb a'r ymgyrch A Moment for Miriam ei lansio ym mis Awst, ac erbyn hyn mae dros 109,000 o bobl wedi cefnogi'r ymgyrch. Yn ôl chwaer Miriam, Katie-Ann, mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.

"Mewn mater o ddeufis o'n ni wedi cyrraedd 109,000 o lofnodion, oedd yn anodd credu," meddai.

"Ni fel teulu mor hapus bod ni 'di cyrraedd faint a 'na mor gloi, ond hefyd yn gallu gweld faint o bobol odd hwn yn effeithio, a faint o bobol yn y wlad 'ma sydd yn credu mewn beth y'n ni'n ceisio newid, a chael y llywodraeth i ail-edrych arno."

Mewn datganiad mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud bod y llywodraeth yn benderfynol o wneud yn siŵr bod y ddedfryd yn cyd-fynd â'r drosedd ar gyfer y rhai sy'n lladd neu achosi anaf difrifol ar y ffyrdd, a bydd ymgynghoriad ar droseddau gyrru, a chosbau yn cael ei lansio erbyn diwedd y flwyddyn.