Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Sut i gadw eich plant yn brysur gartref

  • Cyhoeddwyd
Cyfnos Sylfaen Cymraeg

Mae 'na wledd o gynnwys rhyngweithiol hwyliog ac addysgiadol ar gael gallai fod o ddiddordeb i rieni a'r rhai hynny sy'n gwarchod yn ystod yr wythnosau i ddod.

Dyma gasgliad o'r cynnwys Cymraeg gorau i gyd mewn un lle.

Bitesize

Adnoddau dysgu, cyngor a chymorth i rieni.

Dyma bum ffordd y gallwch chi gadw eich plant - a'u hymennydd - yn brysur gartref.

Casgliad o fideos deniadol i feithrin hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson - mewn plant a rhieni yn y cartref ac mewn gwersi.

Cyfres o ffilmiau byr wedi eu hanimeiddio a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae themâu yn cynnwys Rhif; Mesurau ac arian; Siâp, safle a symud; Trin data.

Casgliad o fideos a gweithgareddau hwyliog sy'n dod â'r Gymraeg yn fyw mewn arddull sgwrs bob dydd.

Adnoddau addysgol am bum merch eithriadol o Gymru. Mae pob pecyn dysgu yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, a'n eu cymharu gyda Chymru fodern.

Gweithgareddau, clipiau fideo a nodiadau adolygu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, sy'n cynrychioli'r dair blynedd gyntaf yn addysg ysgolion uwchradd Cymru, ar gyfer disgyblion 11-14 oed.

Cyw

Casgliad o ddeunyddiau addysgiadol ar gyfer plant oed meithrin a chyfnod sylfaen er mwyn sicrhau bod y dysgu yn parhau tra bod yr ysgolion ar gau gan gynnwys cyfresi teledu yn ogystal â deunydd digidol ac apiau.

Ffynhonnell y llun, S4C Cyw

Pob math o weithgareddau rhyngweithiol hyfryd gan gynnwys y Clwb Darllen a Cân Golchi Dwylo

Mae Ap Byd Cyw yn gyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd. Chwiliwch hefyd am ap Cyfri gyda Cyw ac ap Cyw a'r Wyddor.

S4C Clic

Gwyliwch eich hoff raglenni S4C yn fyw ac ar alw ar Cyw Tiwb, dolen allanol a Stwnsh , dolen allanol.

CBeebies

O'r Teletubbies i'r Go Jetters, mwynhewch jig-sos, gemau a phosau yng nghwmni rhai o'ch hoff gymeriadau ar wefan CBeebies. (Gemau ar gael ar gyfrifiadur yn unig.)

Podlediad Stori TicToc

Apiau addysgol

Ar y Fferm, dolen allanol

Hwyl wrth chwarae ar y fferm gyda Alun yr Arth a'i ffrindiau.

Aur am Air, dolen allanol

Gweithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

Betsan a Roco yn y Pentref, dolen allanol

Ar gyfer dysgwyr ifancaf y Cyfnod Sylfaen, mae'n cynnwys cyfres o gemau deniadol a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn y Gymraeg.

Bys a Bawd, dolen allanol

Cyd-ganwch gyda Bedo, y bardd glas, gan ddilyn ei symudiadau i'r caneuon yn eich ystafell fyw.

Campau Cosmig, dolen allanol

Dros 60 o gemau bychain yn Gymraeg. Ffordd wych o ddysgu, atgyfnerthu a gwella eich Cymraeg tra'n chwarae gemau difyr.

Tric a Chlic, dolen allanol

Atgyfnerthu sain a ffurfiad llythrennau gyda chaneuon i'ch arwain o lythyren i lythyren.

Cofiwch gysylltu os oes gennych chi awgrym am unrhyw adnoddau ar-lein arall hoffech chi i ni eu hystyried ar gyfer y rhestr.