Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Tor-calon' ffoaduriaid o Wcráin wedi ffrae â'u noddwr

  • Cyhoeddwyd
Yaya a Mila

Fe wnaeth pâr priod ffoi o Wcráin yn y gobaith o gael bywyd gwell yn y DU, ond o fewn byr amser roedden nhw'n ddigartref a hynny, maen nhw'n ei honni, o ganlyniad ymddygiad "ymosodol a bygythiol" eu noddwr.

Fe gytunodd Mila a Yaya i fyw gyda noddwr yng Nghymru ar ôl dianc rhag brwydro ffyrnig ger dinas Bucha.

Ond maen nhw'n honni i'r noddwr eu gadael heb geiniog na'r dogfennau sydd eu hangen i ymestyn fisa Yaya.

"Hanner y gwirionedd" yw'r cyhuddiadau, yn ôl y noddwr, Mark Newbery, sy'n dweud bod y ddwy ochr wedi mynd "yn groes i'w gilydd".

Mewn ymateb i ddechrau'r rhyfel yn Wcráin, fe adawodd Mila a Yaya a chyrraedd y DU, wedi nifer o wythnosau, dan gynllun Llywodraeth y DU.

Ofer oedd eu hymdrechion cychwynnol ar Facebook i ddod o hyd i deulu a fyddai'n fodlon cynnig cartref iddyn nhw, ac felly fe wnaethon nhw gysylltu â dyn roedden nhw wedi ei gwrdd ar wyliau yn Yr Aifft.

Mae gan Mark Newbery gartref yn Llanelli, ond fe fu'n byw yn ddiweddar yn Yr Aifft, ble ddaeth ar draws Yaya, sy'n hanu o'r wlad, a Mila.

"Roedd yn berson roedden ni'n ei nabod [ac roedden ni'n meddwl] be all fynd o'i le?" meddai Mila, sy'n fyfyrwraig 23 oed.

"Feddylion ni ddim byd arall yn ei gylch, roedd e mor hoffus."

Ffynhonnell y llun, Mila a Yaya
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Mila a Yaya sawl noson yn cysgu mewn seler bloc o fflatiau ger dinas Bucha cyn ffoi o Wcráin

Dywedodd Mr Newbury wrthyn nhw ei fod wedi ceisio hedfan yn ôl i'r DU er mwyn eu noddi, ond roedd yn cael trafferthion gyda'i gardiau banc.

Dywed Mila a Yaya eu bod wedi cynnig benthyg arian iddo ar gyfer yr hediad.

Mae Mr Newbury yn dweud bod y cwpl wedi "mynnu" talu am ei docyn, a'i fod wedi gwneud "ffafr fawr" â nhw trwy ddychwelyd i Gymru'n gynnar.

Yn y dyddiau dilynol, dywed y cwpl bod Mr Newbury wedi anfon fideos a negeseuon "twymgalon" yn disgrifio paratoi ei gartref ar eu cyfer, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu.

Maen nhw'n dweud ei fod wedi eu hysbysu bod y cyngor lleol wedi arolygu'r tŷ, ond oriau wedi iddyn nhw gyrraedd yr eiddo fe wnaeth pethau ddechrau mynd o chwith.

"Pan aethon ni i'r tŷ wnaethon ni sylwi nad oedd wedi ei gwblhau," meddai Mila.

"Roedd hynny'n iawn. Dydyn ni ddim yn bobl picky. Roedden ni wedi treulio pum noson mewn seler."

Ond cynyddodd pryder y pâr drannoeth ynghylch ymddygiad Mr Newbury.

Ffynhonnell y llun, Mila a Yaya
Disgrifiad o’r llun,

Mae sefyllfa wedi torri calonnau'r pâr, medd Mila

"Gofynnais wrtho a fyddai'r llywodraeth yn ei ariannu i dalu costau ychwanegol [ein cartrefu ni]," meddai.

"Dywedodd 'na, mae gen i £350 - arian ar gyfer fy ngardd a chwblhau fy nhŷ'.

"Y foment yna fe sylweddolais bod dim arian gyda ni. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud."

'Ymosodol iawn'

Yn ôl Mila, dywedodd Mr Newbury y byddai angen iddyn nhw gyfrannu at filiau'r aelwyd.

"Fe aeth yn ymosodol, yn ymosodol iawn, iawn. Roedd yn fy ngalw'n fenyw dwp. Dywedodd 'cau dy ben, os nad wyt ti'n hoffi fe, yna cer'.

"Ro'n i'n desbret. Ro'n i'n trio peidio crio ac roedd Yaya'n gafael fy llaw."

Dan gynllun Llywodraeth y DU, ni chaiff noddwyr fynnu rhent gan ffoaduriaid, ond mae modd gofyn am "gyfraniad teg at filiau cyffredin yr aelwyd" fel bwyd, a chostau fel biliau dŵr ac ynni.

'Fel plentyn maldodus'

Dywed Mr Newbury bod Mila wedi awgrymu bod angen iddo yntau "dalu am bopeth", ond roedd yn anghytuno ac fe ddywedodd hynny wrthi'n "blwmp ac yn blaen".

"Dywedais wrthyn nhw os fyswn i'n cael yr arian [gan y llywodraeth] gallwn ni drafod y peth wedyn, ond tan hynny roedd rhaid iddyn nhw dalu'u ffordd," meddai.

"Maen nhw wedi pwdu, mae hi fel plentyn maldodus.

"Dywedais 'drychwch, os nad ydych chi am dalu eich ffordd, chwiliwch am noddwr arall'."

Ffynhonnell y llun, Mila a Yaya
Disgrifiad o’r llun,

Rhannodd Mila eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol

Y noson honno fe rannodd Mila eu sefyllfa ar Facebook.

Cysylltodd noddwr posib arall er mwyn eu helpu, ond fe wnaethon nhw aros am ddiwrnod arall, "rhag creu problem" i Mr Newbery "neu ei dristáu", eglurodd Yaya, cogydd 33 oed.

Ond fe gododd ffrae y diwrnod canlynol wedi i Mila newid cyfrinair WiFi Mr Newbury.

"Roedd yn grac, roedd yn gweiddi arna'i. Ar un adeg ro'n i'n meddwl y byddai yn fy nharo, hyd yn oed. Do'n i ddim yn teimlo'n ddiogel yna," meddai.

"Ro'n i'n teimlo'n benisel, ro'n i wedi torri'n feddyliol wedi'r pethau aethon ni drwyddo ac roedd e'n fy nhorri mwy fyth."

'Falch iddyn nhw adael'

Mewn ymateb, dywedodd Mr Newbury na gollodd ei dymer ond ni allai "dystio o ran sut roedden nhw'n teimlo".

"Os roedd hi'n teimlo dan fygythiad yn gorfforol, dyna'r peth olaf fydden ni wedi dymuno'i wneud," dywedodd.

Ond fe ychwanegodd ei fod wedi dweud wrthyn nhw i adael, a'i fod "yn falch" pan wnaethon nhw hynny.

Dywedodd Mila iddi gysylltu gyda Chyngor Sir Gâr, a drefnodd llety arall ar eu cyfer, gan ddanfon negeseuon Wcreineg fel na allai Mr Newbury eu darllen.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans bod swyddogion y cyngor yn arolygu eiddo noddwyr posib ac yn cynnal archwiliadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gan gynnig cefnogaeth petai'r berthynas gyda'r ffoaduriaid yn torri lawr.

"Wnawn ni sicrhau bod y rheiny sy'n chwilio am loches yn cael yr amddiffyniad a'r diogelwch sydd angen i ailgydio yn eu bywydau yma yn Sir Gâr," meddai.

'Ein gadael gyda dim byd'

Yn ddiweddarach, dywedodd Mila iddi gael gwybod na chafodd y tŷ ei arolygu gan swyddogion cyngor.

Mae dyfodol y cwpl mor ansicr nawr ag erioed. Yn yr wythnosau diwethaf maen nhw wedi bod mewn llety argyfwng gyda theuluoedd eraill o Wcráin y maen nhw'n dweud oedd hefyd wedi eu hel allan gan eu noddwyr.

"Rydym wedi ein gadael gyda dim byd," meddai Mila.

Mae'r ddau'n credu bod dogfennau sy'n angenrheidiol i ymestyn fisa Yaya wedi cael eu danfon i'r tŷ ers iddyn nhw adael, ond nid dyna'r achos yn ôl Mr Newbery.

Ffynhonnell y llun, Mila & Yaya
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cwpl eu bod am bwyllo cyn dewis noddwr arall

Mae yna le i gredu bod yr awdurdodau lleol a'r heddlu yn rhan o'r sefyllfa, er bod dim honiadau o unrhyw drosedd.

O edrych yn ôl, mae'r pâr yn meddwl y bydden nhw'n ystyried yn fanylach cyn dewis noddwr yn y dyfodol.

Maen nhw hefyd eisiau atgoffa noddwyr o'u cyfrifoldebau wrth ddewis i groesawu teulu o Wcráin.

"Rwy'n erfyn arnoch chi, os nad ydych chi'n fodlon byw gyda rhywun dieithr, peidiwch ag ymgymryd â'r cyfrifoldeb," meddai Mila. "Mae'n torri ein calonnau."

Dywedodd Llywodraeth y DU bod dros 65,000 o bobl wedi cyrraedd trwy eu cynllun i helpu ffoaduriaid o Wcráin a bod y mwyafrif helaeth yn setlo'n dda.

Mae yna "fesurau diogelu llym", meddai mewn datganiad, i warchod unigolion sy'n cyrraedd y DU dan y cynllun, gan gynnwys archwiliadau DBS, cyn bod modd rhoi fisas.

Ychwanegodd: "Yn y lleiafrif o achosion, ble mae yna bryderon diogelwch, fe all cynghorau ddarparu llety amgen."

Pynciau Cysylltiedig