Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Erioed wedi teimlo mor isel' nag wrth drio cael tŷ rhent

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu Sara a Steve yn chwilio am le i rentu ers y Nadolig a chael eu gwrthod dro ar ol tro

Mae mam o Gaerdydd fu'n chwilio am le i'w rentu am wyth mis i'w theulu ifanc yn dweud nad yw hi "erioed wedi teimlo mor isel".

Does gan Sara Hobday a'i phartner, Steve, ddim arian wedi ei arbed i brynu tŷ, ond maen nhw'n dweud bod y farchnad rhent yn eu prisio allan erbyn hyn hefyd.

Ar ben hynny, mae'n dweud bod sawl asiantaeth dai wedi dweud wrthi fod y ffaith bod ganddyn nhw fabi yn "anfantais" - rhywbeth sydd yn codi dro ar ôl tro, yn ôl elusen Shelter Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod unrhyw landlord neu asiant sy'n gwahaniaethu'n annheg yn erbyn tenantiaid mewn perygl o golli eu trwydded.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sara'n dychmygu y byddai eu cais yn cael ei flaenoriaethu gan fod gan y ddau blentyn bach, Lena

Fe wnaeth cyn-landlord Sara Hobday, 32, a'i phartner roi gwybod iddyn nhw adeg y Nadolig ei bod hi eisiau gwerthu'r tŷ erbyn yr haf.

Cafodd y cwpwl chwe mis o rybudd i ddod o hyd i rywle arall. Fe drodd y misoedd yn hunllef.

"Yn ystod y chwe mis 'na, cafon ni amser mor galed yn hyd yn oed jyst yn gallu mynd i weld tai, o'dd gyment o bobl yn chwilio ar yr un pryd, ond os o'n ni'n rhoi cais mewn o'dd y cais ddim yn cael ei dderbyn achos o'dd plentyn gynnon ni, sydd yn wallgo'," meddai.

"Naethon ni drio rhoi cais mewn ar gyfer un tŷ ac unwaith naethon nhw sylweddoli bod gyda ni blentyn, naethon nhw ddweud byse'r landlord ddim - byth - yn cymryd plant.

"Ac o'n i'n gofyn, wel, ni'n deulu. Sut ydyn ni'n gallu ffeindio rhywle i fyw os oes gan y landlord yr hawl i ddweud bo' nhw ddim eisiau teuluoedd neu ddim ishe plant?

Disgrifiad o’r llun,

Mae asianatethau tai wedi dweud wrth Steve a Sara bod cael babi yn "anfantais" wrtho geisio dod o hyd i rywle

Bythefnos yn ôl, roedd y teulu bach mewn sefyllfa argyfyngus. Roedden nhw wedi byw yn nhŷ ffrindiau tra'u bod ar wyliau ac unlle i fynd erbyn diwedd Gorffennaf.

Ers hynny, mae'r teulu'n ffodus o fod wedi gallu symud i fflat bach ail lawr yn Nhreganna dros dro a thalu morgais aelod o'r teulu ers dechrau'r mis.

Mae Sara'n pwysleisio eu bod mewn sefyllfa freintiedig i gael cefnogaeth teulu. Ond dywedodd ei bod yn dal i deimlo effeithiau'r misoedd diwethaf.

"Mwy nag unrhyw beth, mae'n effeithio ar iechyd meddwl, mwy na fase unrhyw un yn deall," dywedodd.

"Sa i'n meddwl bo' fi 'di teimlo mor isel ag o'n i ar yr adeg yna, ddim yn gw'bod ble o'n ni'n mynd i fynd, ble o'n ni'n mynd i fod mewn wythnos, ble o'dd 'y mhlentyn yn mynd i fynd.

"O'n ni'n dod gartre' ac o'n i'n meddwl ble fydd cartref fory? Ble fydd cartref mewn wythnos?"

Disgrifiad o’r llun,

Thomas Williams yw cyfarwyddwr asiantaeth dai Maison yng Nghaerdydd

Mae Thomas Williams, cyfarwyddwr asiantaeth dai Maison yng Nghaerdydd, yn dweud mai marchnata'r llefydd a rhoi gwybodaeth i'r landlordiaid yw eu rôl.

Fe bwysleisiodd nad oes hawl gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd o fewn y farchnad, ond oherwydd y galw mawr, dywedodd fod mwy a mwy o bobl yn debygol o gael eu siomi.

"Er mwyn rhoi rhyw esiampl i chi, yn y gorffennol fasen ni'n marchnata eiddo am ryw bythefnos, erbyn hyn 'dan ni'n marchnata am ryw hanner diwrnod i ddiwrnod," meddai.

"Yr hyn 'dan ni'n sylwi ydy bod pobl yn cynnig dros y pris ar y farchnad neu'r pris marchnata, ac fel cwmni 'dan ni'n peidio derbyn unrhyw beth nad ydy o yn rhywbeth 'dan ni wedi ei bennu.

"'Dan ni yn rhoi pethau ger bron landlordiaid... ond mae'n anodd cadw'r ddysgl yn wastad. Ond 'dan ni'n trio'n gorau i weld yr unigolyn yn hytrach na'r ffeithiau moel fel petai."

Pam fod cymaint o gystadleuaeth yn y farchnad rhent?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pris cyfartalog ty yng Nghymru yw £240,000 felly mae llawer mwy o bobl yn trio rentu

Mae prisiau tai yng Nghymru ar eu lefel uchaf erioed - £240,000 ar gyfartaledd, yn ôl ffigyrau diweddaraf cymdeithas dai y Principality.

Mae hynny'n golygu bod mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi i drio rentu gan na allan nhw fforddio prisiau tai.

Ond, gan fod y galw wedi cynyddu gymaint, does 'na ddim digon o le i ateb y galw.

Ar ben hynny, mae nifer o landlordiaid wedi penderfynu gwerthu eu heiddo yn ddiweddar gan y bydd mwy o reoleiddio'n digwydd yn y sector pan ddaw deddf newydd Llywodraeth Cymru i rym ddiwedd y flwyddyn.

Yn ôl Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru, mae angen mwy o reoleiddio rhentu gan fod "gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddyr Gregory, Swyddog i'r Wasg elusen Shelter Cymru, yn galw am fwy o reoleiddio rhentu yng Nghymru

"Mae hyn yn dod 'nôl i'r galw am le rhent preifat lle mae'r landlord yn gallu edrych ar broffil rhywun, yn gallu edrych ar gyflog rhywun, yn gallu edrych ar incwm rhywun," meddai.

"Ydyn nhw'n bâr neu oes ganddyn nhw deulu?

"Ac yna maen nhw'n gallu dewis a dethol, ond wrth gwrs yn y broses honno maen nhw'n gwahaniaethu ac mae hynny'n gwbl anghyfreithlon."

'Perygl o golli trwydded'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod unrhyw "wahaniaethu annheg" yn mynd yn erbyn cod ymarfer Rhentu Doeth Cymru.

"Mae unrhyw landlord neu asiant sy'n gwahaniaethu'n annheg yn erbyn tenantiaid mewn perygl o golli eu trwydded.

"Bydd ein Cynllun Prydlesu Cymru yn cynyddu mynediad at gartrefi fforddiadwy yn y sector rhentu preifat, a byddwn yn darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod tymor y llywodraeth hon."