Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cwmni yn ildio'r hawl i ddefnyddio geiriau 'cariad' a 'hiraeth'

  • Cyhoeddwyd
cacen griFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni a geisiodd am nod masnach (trademark) ar y geiriau 'cariad', 'hiraeth' a 'Welsh cake' wedi tynnu'r cais yn ôl yn dilyn beirniadaeth llym.

Cafodd y geiriau eu cofnodi gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (SED) fel nodau masnach cwmni canhwyllau Fizzy Foam o Ben-y-bont ar Ogwr.

Roedd hynny'n atal busnesau eraill sy'n gwneud cynnyrch tebyg rhag defnyddio'r geiriau.

Ond mae'r SED nawr yn dweud bod y cwmni wedi rhoi'r gorau i'r hawliau yn wirfoddol.

Dywedodd Fizzy Foam mai dim ond ar gyfer canhwyllau y byddai'r nodau masnach wedi bod yn weithredol.

Corddi busnesau eraill

"Mae'r nodau oedd yn berchen i Fizzy Foam Ltd wedi cael eu ildio'n wirfoddol," meddai llefarydd ar ran yr SED.

"Mae hyn yn golygu bod y perchennog wedi rhoi'r gorau yn wirfoddol i'r hawliau yn y nod masnach."

Pan gafodd y nodau masnach eu rhoi, dywedodd llefarydd ar ran SED fod y tri chais a wnaed wedi cyrraedd y gofynion o ran diffiniad y gyfraith.

Ond fe wnaeth hynny gorddi nifer o berchnogion busnes eraill, gan gynnwys Amanda James, pennaeth cwmni Gweni, sydd hefyd yn cynhyrchu canhwyllau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

"Cyn belled â ma' fy nghwmni i yn y cwestiwn, mae gen i nifer o ganhwyllau gyda 'cariad' arnyn nhw. Byddwn i methu â gwerthu'r rhain," meddai ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Amanda James
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Amanda James yn anhapus gyda'r penderfyniad gwreiddiol gan y byddai wedi effeithio ar ei busnes hi

"Dwi ddim yn meddwl fod gan unrhyw un yr hawl i ddweud mai nhw sy'n berchen ar y geiriau hyn.

"Mae'r geiriau hyn yn unigryw, yn perthyn i'n hiaith, ein treftadaeth a'n diwylliant."