Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Adolygiad Ombwdsmon: Newid arweinydd 'i sicrhau hyder'

Michelle Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol fod gan y Senedd a rhanddeiliaid eraill hyder yn y broses, yn ôl Michelle Morris

  • Cyhoeddwyd

Mae'r corff sy'n goruchwylio gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn bwriadu penodi person newydd i arwain adolygiad annibynnol i honiadau o ragfarn wleidyddol.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu hygrededd yr adolygiad yn sgil penodiad yr uwch fargyfreithiwr, James Goudie KC - gan ei fod â chysylltiadau hirsefydlog â’r blaid Lafur.

Mae'r ombwdsmon, Michelle Morris, bellach yn dweud y byddai parhau gyda Mr Goudie wrth y llyw yn arwain at "ddiffyg hyder yn yr adolygiad".

Ychwanegodd y byddai nawr yn mynd ati i chwilio am unigolyn arall i arwain y gwaith.

Daw'r adolgiad yn sgil ymddiswyddiad cyn-ymchwilydd i swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi honiadau ynghylch negeseuon sarhaus ar-lein.

Roedd honiadau bod Sinead Cook wedi gwneud sylwadau amhriodol ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys un neges oedd yn cyfeirio ar y Ceidwadwyr.

Hyd at haf 2023 roedd hi wedi rheoli tîm cod ymddygiad cynghorwyr yr ombwdsmon.

Fe fydd yr adolygiad yma yn edrych ar achosion yr oedd Ms Cook a'i thîm wedi dewis peidio â'u hymchwilio.

'Ymateb i bryderon'

Mewn datganiad, dywedodd Michelle Morris: "Mae'n hanfodol fod gan y Senedd a rhanddeiliaid eraill ar hyd llywodraeth leol hyder yn y broses yma.

"Er fy mod i'n dal yn hyderus y byddai James Goudie KC wedi gallu gwneud y gwaith gyda hygrededd, didueddrwydd ac mewn modd proffesiynol, mae'n amlwg bod nifer o bobl wedi codi pryderon.

"Rydw i wedi gwrando ar y pryderon hyn ac wedi dod i'r casgliad y byddai parhau ar y llwybr yma yn arwain at ddiffyg hyder yn yr adolygiad a'i gasgliadau.

"O ganlyniad, rydw i wedi ailystyried y penodiad, ac yn bwrw ati i benodi unigolyn arall i arwain y gwaith."