Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Gollwng cyhuddiad rhyw yn erbyn cyn-aelod Bwncath

Disgrifiad,

Dywedodd Alun Jones Williams fod ei "enw da yn deilchion" o ganlyniad i'r cyhuddiad "di-sail"

  • Cyhoeddwyd

Mae achos llys yn erbyn athro a chyn-aelod o'r band Bwncath wedi cael ei ollwng.

Cafodd Alun Jones Williams, 26 oed o ardal Pwllheli, ei gyhuddo ym mis Tachwedd y llynedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher dywedwyd wrth Mr Williams nad oedd yr erlyniad am barhau â'r achos.

Dywedodd fod ei "enw da yn deilchion" o ganlyniad i'r cyhuddiad "di-sail", ac y bydd ei "fywyd byth yr un fath eto".

'Peidio cynnig unrhyw dystiolaeth'

Yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher dywedodd yr erlynydd Georgia Donohue: "Wedi i ni adolygu'r achos yma, rydym wedi penderfynu peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn Mr Williams."

Yn cynrychioli Mr Williams, dywedodd Elen Owen: "Pe bai’r ymchwiliad yma wedi cael ei wneud yn y ffordd gywir, dwi ddim yn meddwl y byddai Mr Williams wedi cael ei gyhuddo o gwbl."

Ychwanegodd ei fod "yn gadael y llys yma heddiw heb staen ar ei gymeriad".

Gan gloi'r achos, dywedodd y Barnwr Nicola Saffman ei bod yn "cyhoeddi bod Mr Williams yn ddieuog ac yn rhydd i adael y llys".

Mewn datganiad dywedodd Mr Williams: "Rwyf yn hynod falch o gael fy nghanfod yn ddieuog o'r diwedd.

"Mae'n rhyddhad i mi bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.

"Cefais fy nal yn y ddalfa am dros ddeg awr ar hugain gan bod cyhuddiad brys di-sail yn cael ei roi yn fy erbyn.

"Yna, cefais fy nhywys yn ddi-fechnïaeth gerbron llys.

"Nid oedd archwiliad cywir o'r dystiolaeth ac mae fy enw da yn deilchion o'r herwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Bwncath y llynedd na fyddai Mr Williams yn perfformio gyda'r band yn y dyfodol

Dywedodd ei fod yn diolch i'w gyfreithwyr, "ond, yn fwyaf oll, mae fy niolch enfawr i fy nheulu a fy ffrindiau sydd wedi rhoi cariad a chefnogaeth i mi drwy'r hunllef parhaus yma dros y chwe mis diwethaf.

"Byddwn i ddim yn dymuno'r profiad afiach yma ar neb. Fydd fy mywyd byth yr un fath eto ar ôl hyn.

"Rwyf am gymryd amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau i geisio dod yn ôl ataf fy hun, ac i drio rhoi'r mater yma tu ôl i mi.

"Yn sicr, fydd y profiad dirdynnol hwn yn aros efo mi tra byddaf fyw."

'Dymuno'r gorau i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr achos'

Wedi iddo gael ei gyhuddo y llynedd, cyhoeddodd Bwncath na fyddai Mr Williams yn "cymryd rhan mewn unrhyw un o berfformiadau'r band yn y dyfodol".

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd y band: "Nid ydym yn teimlo ei bod hi'n briodol i ni wneud unrhyw ddatganiad pellach fel band, ond fel unigolion rydym yn dymuno'r gorau i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr achos hwn wrth symud ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Yn unol a gweithdrefnau cyflogaeth ysgolion, mae unrhyw aelod o staff sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth sydd wedi ei arestio gan yr Heddlu yn cael eu hatal o’r gwaith hyd nes bydd yr holl ymchwiliadau wedi eu cwblhau.

"Mae atal o’r gwaith yn weithred niwtral heb ragfarn.

“Rydym yn nodi penderfyniad y llys heddiw a ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw ar fater cyflogaeth unrhyw unigolyn.”