Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

'Dim oedi' cynllun amaeth ond gweinidog newydd 'yn gwrando'

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Huw Irranca-Davies ei benodi'n ysgrifennydd dros newid hinsawdd a materion gwledig gan Vaughan Gething

  • Cyhoeddwyd

Fydd dim oedi wrth gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ôl gweinidog materion gwledig newydd Cymru.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi i'r swydd fis Mawrth, mae Huw Irranca-Davies yn mynnu y gall y "materion cymhleth" wrth wraidd yr anghydfod gael eu datrys.

Mae protestiadau lu wedi bod yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth, sydd i fod i gael ei gyflwyno fis Ebrill 2025.

Y prif wrthwynebiad yw'r orfodaeth i dyfu coed ar 10% o'u tir, ac mae Mr Irranca-Davies yn dweud ei fod yn "edrych i weld pa syniadau eraill sydd allan yna".

Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o ffermwyr i Gaerdydd ar 28 Chwefror i brotestio yn erbyn cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Cafodd Huw Irranca-Davies ei benodi’n ysgrifennydd dros newid hinsawdd a materion gwledig fel rhan o dîm newydd Vaughan Gething, gan gymryd lle Lesley Griffiths fu’n gyfrifol am amaeth am saith mlynedd.

Mae sylw mawr wedi bod ar y swydd yn ddiweddar gyda miloedd o ffermwyr yn protestio ar draws Cymru yn erbyn newidiadau i bolisïau ffermio yn sgil Brexit, yn ogystal â phryderon am TB mewn gwartheg a rheoliadau cryfach ar lygredd o amaeth.

Galwodd ffermwyr am ail-osod y berthynas gyda’r llywodraeth.

Dywedodd Mr Irranca-Davies mai ei gyfarfod swyddogol cyntaf â’r prif weinidog newydd oedd gyda’r undebau amaeth, a dywedodd bod “cytundeb ar lawer o’r fframwaith a’r ffordd ymlaen”.

“Rwy’n gwybod bod ewyllys da a llawer o syniadau da yn y gymuned amaethyddol ac eraill i’n harwain ni at ddyfodol gwell, mwy cynaliadwy i ffermio – cynaliadwy i fusnesau a’r amgylchedd,” meddai.

Ond dywedodd bod galwadau i roi stop ar y cynllun neu oedi “y peth gwaethaf allwn ni wneud”.

“Beth sydd rhaid i ni wneud yw cydnabod yr angen am sicrwydd i ffermwyr”, meddai.

'Neb yn gwrando'

Tri pheth sydd angen i'r gweinidog fynd i'r afael â nhw yn ôl Garry Williams o fferm Blaencennen yn Sir Gâr - y polisi amaeth newydd, TB mewn gwartheg a rheoliadau llygredd afonydd.

"Mae cefn gwlad Cymru mor anhapus gyda'r llywodraeth ar hyn o bryd," meddai'r ffermwr, sy'n un o'r rhai wnaeth drefnu protestiadau yng Nghaerfyrddin.

"'Sdim amser 'da ffermwyr protestio, ma' digon o waith 'da nhw gatre," meddai.

"Ma' ffermwyr yn teimlo bod neb o ochr y llywodraeth yn gwrando arnyn nhw.

"Maen nhw ofn be' sy'n mynd i ddod yn y dyfodol. Maen nhw ofn am eu ffermydd nhw. Maen nhw ofn am eu hardal nhw, lle maen nhw wedi cael eu geni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gofyn i bob fferm sicrhau bod 10% o'r tir â choed arno er mwyn cael arian yn y dyfodol wedi bod yn hynod ddadleuol

Wrth drafod yr angen i ffermwyr gael coed ar 10% o’u tir, dywedodd Mr Irranca-Davies bod y llywodraeth “yn gwrando” ac yn “gweld pa syniadau eraill sydd allan yno”.

“Rhan nesaf y broses yw mynd ymlaen gyda’r holl randdeiliaid eraill yng Nghymru – ble mae’r ffyrdd y gallwn ni symud ymlaen yn fwy creadigol mewn meysydd eraill er mwyn cyflawni’r un uchelgais,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty

Wrth drafod TB mewn gwartheg dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd bwriad ganddo gyflwyno cynllun lladd moch daear fel mae rhai ffermwyr yn annog.

Dywedodd ei fod wedi gwrando ar bryderon ffermwyr am reoleiddio llymach i daclo llygredd amaeth ac wedi gwneud newidiadau.

Ond mae’n mynnu bod afonydd glanach yn “hollol hanfodol”.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid llunio polisi amaeth er lles yr amgylchedd ac i gefnogi ffermwyr, yn ôl Oisin Lowe-Sellers

Mae hynny'n newyddion da i Oisin Lowe-Sellers o Ymddiriedolaeth Afonydd Cymru, sydd am i unrhyw gynllun ffermio fod yn gynaliadwy i'r economi, y gymdeithas a'r amgylchedd.

Fel un sy'n gweithio tu allan mae'n ymwybodol iawn o'r holl law diweddar ac arwyddocâd hynny.

"Dyna be' 'da ni’n disgwyl i ddigwydd yn fwy aml," meddai. "Hefyd yn yr haf fydd ‘na fwy o sychder o flwyddyn i flwyddyn.

"Felly mae o mor bwysig cael rheolaeth tir cynaliadwy yn ei le i sicrhau ein bod ni’n lleihau y risg o’r llygredd. Ond hefyd i gefnogi ffermwyr."

Mewn datganiad ar wahan ddydd Llun, dywedodd Mr Irranca-Davies y bydd "cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol" a bod angen gweithredu.

"Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau nawr i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.”

Yn siarad gyda'r BBC, mynnodd y bydd yn “parhau i weithio” gyda’r ffermwyr.

“Ond fy neges i ffermwyr – fel gyda nifer o’r heriau mawr yma sydd ganddom ni – yw y byddwn ni gyd yn elwa o wella safon ein hafonydd ni.

“Edrychwch ar enw da rhyngwladol Cymru wedi’i seilio ar les anifeiliaid, safonau cynhyrchu uchel a’r erwau gwyrdd, hyfryd tu allan.

“Mae’n dod o’r hyn rydym ni’n gwneud i’n tir a’n hafonydd a phopeth arall,” meddai.